Pro14: Glasgow 30-25 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Rufus McLean yn tirioFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Rufus McLean yn tirio

Ildiodd y Gweilch y fantais roedden nhw wedi ei sicrhau yn ystod yr hanner cyntaf wrth i Glasgow daro'n ôl yn gryf wedi'r egwyl a'u curo.

Roedd y Gweilch 15-9 ar y blaen ar yr egwyl wedi cais a chic gosb yn gynnar gan Lloyd Ashley.

Ymatebodd Glasgow yn dda gan fynd ar y blaen yn dilyn cais Lee Jones, cyn i gais Gareth Evans rhoi'r fantais unwaith yn rhagor i'r tîm o Gymru.

Ond tarodd Glasgow yn ôl gyda cheisiadau gan Rufus McLean ac Aki Seiuli i selio'r fuddugoliaeth yn Stadiwm Scotstoun.

Mae'r Gweilch yn parhau'n drydedd yn Adran B gyda 31o bwyntiau ar ôl sicrhau pwynt bonws.

Pynciau cysylltiedig