Pryderon am ddyfodol canolfannau addysg awyr agored
- Cyhoeddwyd
Dywed cynrychiolwyr canolfannau preswyl addysg awyr agored na fyddant yn goroesi oni bai bod hawl ganddynt agor yn fuan.
Cyn y pandemig, roedd gan Gymru 44 canolfan a oedd yn cynnig arosiadau preswyl i blant ond bellach mae o leiaf bump ohonyn nhw wedi cau.
Mae'r rhan fwyaf o incwm y canolfannau yn dod, fel arfer, gan dripiau preswyl ysgolion - y mwyafrif yn dripiau o Loegr.
Yn ddiweddar fe wnaeth canolfannau ar draws Cymru ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am gyllid penodol i'r sector a dyddiad i ailagor.
Dywed Llywodraeth Cymru mai y prif fwriad yw amddiffyn y cyhoedd ac atal yr haint rhag lledaenu a'u bod wedi cefnogi busnesau gydol y pandemig.
Wythnos diwethaf fe wnaeth UK Outdoor, y corff sy'n cynrychioli y diwydiant addysg awyr agored, ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn gofyn iddo sicrhau bod addysg awyr agored yn rhan o gynlluniau'r llywodraeth i ailagor addysg - ac yn gofyn i ymweliadau dydd a phreswyl gael eu caniatáu fel bod modd iddynt weithredu yn nhymor yr haf.
Dywed UK Outdoors eu bod yn disgwyl i Adran Addysg Llywodraeth y DU ddod i benderfyniad yn fuan.
Ond hyd yn oed os ddaw sêl bendith, dywed cynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru bod angen i Lywodraeth Cymru gytuno.
'Colli 95% o'n hincwm'
Cafodd y Ganolfan Fynydda Gristnogol yn Llanbedr yng Ngwynedd ei hagor yn 1966. Mae'n ganolfan addysg awyr agored ac mae yna bryderon y gallai gau o fewn misoedd os nad yw'r sefyllfa yn newid.
Dywed y cyfarwyddwr Mark Downey: "Yn ystod y llynedd ry'n wedi colli bron i 95% o'n hincwm. Ry'n wedi cael cymorth ariannol ond mae'n harian yn debygol o ddod i ben ddiwedd Mai eleni.
"Heb gymorth ariannol sylweddol neu'r gallu i gynnal cyrsiau preswyl i grwpiau eto fydd yna ddim dewis ond cau.
"Ry'n am i Lywodraeth Cymru gydnabod y gallwn agor yn ddiogel a chaniatáu i grwpiau o Loegr ddod i aros yma yn unol â chyfyngiadau Covid.
"'Dan ni'n credu bod y risg yn isel i'r gymuned ac i'n staff - ac os yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny a bod Adran Addysg San Steffan yn cymeradwyo bydd modd i ni weithio eto."
Dywed y rhai sy'n rhedeg canolfannau addysg awyr agored yng Nghymru bod y diwydiant yn werth £40m i'r economi ac yn cyflogi dros 1,700 o bobl.
Gorfod symud allan o'r cartref
Mae Ed Jones yn rhedeg Canolfan Addysg Agored Rhosygwaliau ger Y Bala.
"Flwyddyn yn ôl roeddwn wedi meddwl y buaswn yn cael agor ym Medi 2020 ar yr hwyraf ond bellach 'dan ni wedi colli ein holl incwm i bob pwrpas - mae 98% o'n hincwm yn dod gan grwpiau ysgol - mae'n hynod o anodd."
Yn ystod y llynedd roedd hi'n bosib i ganolfan Rhosygwaliau gael ychydig o incwm drwy osod rhai o'r adeiladau ar gyfer gwyliau.
"Fe gawson ni deuluoedd yn aros mewn canolfan 60 gwely - fe wnaethon nhw fwynhau ac roedd digon o le iddynt redeg o gwmpas."
Mae Mr Jones yn cyflogi chwech aelod o staff sydd yn hyfforddi am chwe mlynedd. Dywed y bydd yn rhaid iddo symud allan o'i gartref os yw am barhau i'w cyflogi.
"Dwi wir yn mynd i symud allan o'r tŷ i'r camper van am yr haf fel ein bod yn gallu gosod y tŷ.
"Rhaid i ni gadw ein staff - does yna ddim dewis arall - 'dan ni ddim yn gallu hyfforddi pobl dros nos.
Dywed Gareth Davies sy'n rheoli gweithgareddau Canolfan Addysg Awyr Agored Arete yn Llanrug bod 95% o incwm y ganolfan yn ddibynnol ar dripiau preswyl ysgolion.
Dywed ei fod ef a rheolwyr eraill yn teimlo bod y sector "wedi cael ei hanghofio" gan nad oes cyllid penodol wedi'i roi nac unrhyw syniad o bryd y gellid ailagor.
"'Dan ni wastad wedi teimlo petai ysgolion yn ailagor y dylwn ni hefyd fod yn rhan 'r darlun.
"'Dan ni'n gwybod y gallwn ni fod mor ddiogel ag ysgolion ac mi allwn ni helpu ysgolion drwy gymryd rhai o'r disgyblion a chreu mwy o ofod iddyn nhw.
"Dan ni'n gwybod bod lles ac iechyd meddwl yn hynod bwysig... ac mi allwn helpu efo hyn.
"Ond ar hyn o bryd mae canolfannau yn cau ac mae'r genhedlaeth nesaf yn colli cyfleon ar adeg y gallwn ni fod o gymorth."
Ychwanegodd Mr Davies bod ysgolion angen cynllunio a pharatoi ar gyfer tripiau a'i bod yn bosib na fydd canolfannau yn agor tan fis Medi.
Os yw hynny'n digwydd dywed nad yw'n gweld sut y gall y sector oroesi.
Cefnogi busnesau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyfyngiadau coronafeirws wedi'u cyflwyno er mwyn atal lledaeniad yr haint a diogelu bywydau.
"Ein blaenoriaeth yw cael cymaint o blant a myfyrwyr â phosib i ddychwelyd i'r ysgol. Wrth i sefyllfa iechyd cyhoeddus wella a bod modd llacio'r cyfyngiadau fe wnawn ni hynny. Ry'n am lacio'r cyfyngiadau yn ofalus yn unol â'r cyngor meddygol a gwyddonol gan asesu effaith y newidiadau wrth i'r llacio ddigwydd.
"Ry'n yn gwneud popeth posib i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn cefnogaeth gan ein cynllun ardrethi annomestig a'r Gronfa Cadernid Economaidd - ac y mae hyn yn ychwanegol at y cymorth sydd wedi cael ei roi gan lywodraeth y DU."
Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "eu bod eisoes wedi neilltuo £200m ar gyfer y flwyddyn nesaf ac y byddant yn adolygu y dewisiadau ar gyfer cefnogi busnesau ymhellach".
Ar hyn o bryd mae Adran Addysg Llywodraeth y DU yn cynghori yn erbyn "pob ymweliad addysgol yn ystod y cyfnod hwn".
"Drwy gydol y pandemig," medd llefarydd, "mae'n canllawiau ar gyfer ymweliadau dyddiol a phreswyl wedi bod yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
"Ry'n wedi gweithredu er mwyn amddiffyn bywydau a bywoliaethau, gan gynnwys ymestyn y cynllun ffyrlo a rhoi cefnogaeth ehangach i fusnesau i ddiogelu swyddi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020