Cyn-swyddog UKIP wedi dwyn offer swyddfa o'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Crispin John gyfaddef dwyn inc argraffu ac offer arall gan y Senedd

Mae cyn-swyddog gyda phlaid UKIP wedi cyfaddef iddo ddwyn gwerth bron i £2,000 o offer cyhoeddus ar ôl mynd ag offer o swyddfa yn Senedd Cymru.

Fe wnaeth Crispin John, 42, gyfaddef dwyn inc argraffu ac offer arall oedd wedi'i brynu gydag arian cyhoeddus.

Roedd John wedi cael ei gyflogi gan UKIP ym Mae Caerdydd cyn cael ei benodi'n Bennaeth Staff yn ddiweddarach i arweinydd y grŵp ar y pryd, Gareth Bennett.

Cafodd y troseddau eu cyflawni rhwng Medi a Thachwedd 2019 pan oedd yn gweithio i arweinydd y blaid yn y Senedd.

Fe gafodd yr achos ei drosglwyddo gan swyddogion y Senedd i'r heddlu, ac yn ystod gwrandawiad y Llys Ynadon Caerdydd fe wnaeth John gyfaddef ei fod wedi dwyn yr eitemau.

Dywed Mr Bennett fod John wedi cael ei wahardd wedi i'r troseddau ddod i'r amlwg.

Talu 'nôl

Yn ystod gwrandawiad yn gynharach ym mis Mawrth fe gyfaddefodd ei fod wedi dwyn nwyddau gwerth £1,947.25 a oedd yn perthyn i Senedd Cymru.

Cafodd ei orchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl a thalu £1,947.25 o iawndal i'r Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Ni fu Mr John erioed yn gyflogai i'r blaid - dim ond i'r grŵp ac yn ddiweddarach i Gareth Bennett ar ôl diddymu'r grŵp.

"Nid yw wedi bod yn aelod o UKIP ers ymhell dros flwyddyn."

Gweithiodd Mr John fel cynghorydd i Gareth Bennett cyn gweithio fel ei bennaeth staff pan gymerodd yr awenau fel arweinydd y blaid yn 2018.

Ond 15 mis ar ôl cymryd yr awenau fel arweinydd fe wnaeth Mr Bennett roi'r gorau i'r blaid i ddod yn annibynnol, a bydd yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y blaid Diddymu'r Cynulliad mewn etholiadau sydd i ddod ym mis Mai.

Pynciau cysylltiedig