Cyflyrau croen: Galw am gydnabod effaith elïau steroid

  • Cyhoeddwyd
Elin WadeFfynhonnell y llun, Elin Wade
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Elin Wade ddioddef adwaith gwael i elïau steroid

Dywed dynes wnaeth golli tair stôn a diodde' o rithwelediadau fod angen gwell cefnogaeth ar bobl sy'n dioddef adwaith wrth ddefnyddio elïau sy'n cynnwys steroid.

Fe wnaeth Elin Wade o Abertawe ddioddef profiadau gwael wrth ddefnyddio eli ar bresgripsiwn ar gyfer ecsema.

Dywedodd yr athrawes 29 oed iddi deimlo yn ffŵl wrth gwyno, gan nad yw adwaith i'r steroid na chwaith bod yn gaeth iddo yn cael eu cydnabod fel cyflyrau gan y gwasanaeth iechyd.

Dywed Llywodraeth Cymru fod adwaith difrifol o'r math yma "yn anghyffredin".

Mae tua 10% o oedolion a 20% o blant yn y DU yn dioddef o ecsema, ac mae elïau steroid yn cael eu hystyried yn fodd diogel ac effeithiol o'i reoli.

Mae yna wahanol gryfderoedd i'r elïau ac fel rheol maent yn cael eu defnyddio dros gyfnodau byr.

Ond mae yna rai sy'n adweithio yn ddrwg iddynt, neu wrth roi'r gorau i'w defnyddio.

Fe allai symptomau gynnwys brech ar y croen, y croen yn torri, tymheredd y corff yn amrywio'n sylweddol, blinder, nodau lymff yn chwyddo ac insomnia.

Ym mis Ionawr fe wnaeth Sefydliad y Dermatolegwyr Prydeinig a Chymdeithas Cenedlaethol Ecsema gyhoeddi canllawiau yn cydnabod effeithiau rhoi'r gorau i ddefnyddio'r elïau.

Ffynhonnell y llun, Elin Wade
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Wade wedi dioddef gydag ecsema ers ei phlentyndod, ond gwaethygodd yn ei 20au

Yn Chwefror 2019 fe wnaeth Ms Wade roi'r gorau i ddefnyddio elïau yn cynnwys steroid ar ôl iddi golli pwysau, dioddef o rithwelediadau a cholli ei gwallt.

"Fe es i o fod yn fenyw iach 25 oed i fenyw 29 oedd yn chwistrellu cyffur cryf i'm system just er mwyn cael rhyw fath o ryddhad."

Dywedodd iddi deimlo'n rhwystredig wrth geisio egluro wrth ddoctoriaid ei bod yn credu mai'r elïau oedd yn gyfrifol am ei symptomau.

"Maen nhw wastad yn ei gwneud yn glir y dylwn fod yn defnyddio'r elïau ac nad oeddynt yn achosi i rywun fod yn gaeth."

Dywedodd ei bod wedi cael profion ar gyfer HIV, lymphoma a lewcemia ond nad oedd yn gallu cael diagnosis am ei chyflwr iawn, oherwydd nad oedd yn cael ei gydnabod.

Ffynhonnell y llun, Elin Wade
Disgrifiad o’r llun,

Cred Elin Wade iddi golli pwysau yn sylweddol ar ôl i'w chorff ddod yn gaeth i'r eli

Dywed Sefydliad y Dermatolegwyr Prydeinig fod yna "angen brys i wella'r wybodaeth am ddermatoleg o fewn y system gofal iechyd".

Yn ôl Julie Keeley o Gyngor Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ni ddylai cleifion fod ofn cysylltu â'r meddyg os ydyn nhw'n pryderu am effeithiau.

Dywedodd bod modd gofyn am ail farn arbenigwr mewn dermatoleg pe bai angen.

Roedd hefyd o'r farn fod angen i feddygon teulu gael mwy o hyfforddiant o ran y croen, er mwyn iddynt allu gwahaniaethu rhwng y mathau o groen a allai adweithio yn anffafriol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod elïau steroid yn chwarae rhan bwysig wrth drin rhai cyflyrau, ond y dylai eu defnydd hirdymor gael ei fonitro'n ofalus.

"Mae adwaith sylweddol yn dilyn rhoi'r gorau i'r elïau yn parhau yn eithaf anghyffredin, ond dylai unrhyw un sy'n pryderu am sgil effeithiau drafod y mater gyda'u meddyg teulu," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig