Adam Beard yn ôl i Gymru i herio Ffrainc am y Gamp Lawn

  • Cyhoeddwyd
Adam BeardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Beard ei orffwys ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal

Bydd y clo Adam Beard yn dychwelyd i'r 15 cychwynnol i Gymru wrth i dîm Wayne Pivac anelu am y Gamp Lawn yn y Stade de France nos Sadwrn.

Dyma'r unig newid i'r tîm roddodd grasfa i'r Eidal yn Rhufain y penwythnos diwethaf - gyda Beard yn cael ei orffwys ar gyfer y gêm honno.

Bydd Cory Hill felly yn dechrau ar y fainc, ac mae'r mewnwr Tomos Williams hefyd ymysg yr eilyddion wedi iddo wella o anaf i'w goes.

Pe bai Cymru'n trechu'r Ffrancwyr nos Sadwrn, dyma fyddai'r 13eg tro iddyn nhw ennill y Gamp Lawn - gan ddod yn gyfartal â record Lloegr.

Disgrifiad,

Mae cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips yn "hyderus iawn" o Gamp Lawn arall

Er eu bod wedi colli i Loegr y penwythnos diwethaf, Ffrainc ydy'r unig dîm arall all ennill y Chwe Gwlad eleni ond byddai'n rhaid iddyn nhw ennill y ddwy gêm nesaf er mwyn cael unrhyw obaith.

Mae gan y Ffrancwyr ddwy gêm yn weddill wedi i'w gêm yn erbyn Yr Alban gael ei gohirio ar ôl i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn â phryd y bydd y gêm honno yn cael ei haildrefnu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwestiynau am ddyfodol Wayne Pivac yn dilyn blwyddyn siomedig yn 2020

Tîm Cymru

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Leon Brown, Cory Hill, James Botham, Tomos Williams, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

Tîm Ffrainc

Brice Dulin; Teddy Thomas, Virimi Vakatawa, Gael Fickou, Damian Penaud; Matthieu Jalibert, Antoine Dupont; Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Romain Taofifenua, Paul Willemse, Dylan Cretin, Charles Ollivon (c), Gregory Alldritt.

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Uini Antonio, Swan Rebbadj, Anthony Jelonch, Baptiste Serin, Romain Ntamack, Arthur Vincent.