Galw am 'ail-ddiffinio tymhorau a diwrnodau ysgol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgybl wrth ei ddesg yn yr ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfle i fod yn fwy "arloesol" ym maes addysg drwy newid strwythur y flwyddyn a'r diwrnod ysgol yn enwedig yn sgil y pandemig, yn ôl arbenigwr.

Mae Dr Dafydd Trystan yn aelod o banel gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru cyn cyfnod Covid i ystyried dyfodol ysgolion.

Dywedodd y gallai ail-ddiffinio tymhorau a diwrnodau ysgol fod o fantais i nifer o blant ar ôl iddyn nhw golli ar brofiadau mewn dosbarth.

"Mae tymhorau ysgol wedi eu sefydlu ar batrwm amaethyddol y 19eg ganrif yn hytrach nag unrhyw ystyriaeth sy'n addas ar gyfer y byd modern yn ni'n byw ynddo," meddai.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau i ddyddiadau tymhorau y flwyddyn academaidd hon.

'Lleihau gwyliau'n ystod yr haf'

Dywedodd Dr Trystan y byddai'n bosib cael sawl tymor gyda chyfnod o bythefnos neu fis o wyliau rhyngddyn nhw yn hytrach na chael chwe wythnos yn yr haf.

"Beth sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf yw bod plant o deuluoedd difreintiedig yn colli allan ac maen nhw'n mynd am yn ôl yn addysgol," meddai.

"Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y profiad addysgiadol gorau byddai modd lleihau gwyliau yn ystod yr haf a chael mwy o wyliau yn ystod hanner tymhorau.

"Mae 'na broblem gyda ni, ni'n gwybod bod plant difreintiedig wedi ei chael hi'n anodd yn ystod Covid, ni'n gwybod bod plant yn ein hysgolion ni angen dal fyny - ac angen strwythur i wneud hynny ac mae rhai o'r argymhellion o'r panel hwn yn cynnig y strwythur hynny."

Ffynhonnell y llun, Dr Dafydd Trystan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Dafydd Trystan yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd

Yn ogystal â newid strwythur tymhorau mae'r panel wedi ystyried newidiadau i'r diwrnod ysgol, gan edrych ar y posibilrwydd o gynnig gweithgareddau allgyrsiol mewn ysgolion ar ôl gwersi ffurfiol.

Awgrymodd Dr Trystan y gallai plant fod ar dir yr ysgol rhwng 9 a 5 a bod partneriaid posib fel yr Urdd, Cyngor y Celfyddydau neu fudiadau chwaraeon yn creu arlwy ar gyfer disgyblion wedi'r gwersi.

Nododd hefyd y byddai'n angenrheidiol peilota unrhyw gynlluniau mewn ysgolion neu mewn sir benodol.

"Byddai hyn yn gam ymlaen yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd a'r newidiadau ym myd addysg," meddai.

Ond cyfaddefodd Dr Trystan, sydd hefyd yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd, y byddai newidiadau i systemau trafnidiaeth ysgol yn heriol iawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Dr Trystan y gallai mudiadau chwaraeon greu arlwy ar gyfer disgyblion wedi'r gwersi ffurfiol

Yn Lloegr mae'r ysgrifennydd addysg yno, Gavin Williamson wedi dweud eu bod nhw'n edrych ar gael dyddiau ysgol hirach a gwyliau byrrach er mwyn helpu disgyblion ar ôl i Covid darfu ar addysg plant.

Mae Sion Amlyn o undeb NASUWT Cymru yn dweud bod trafodaethau wedi eu cynnal yn y gorffennol am gael amserlen wythnosol anghymesur neu wythnos pedwar diwrnod mewn ysgolion, ac na ddylai'r pandemig gael ei ddefnyddio fel rheswm i ystyried cyflwyno unrhyw newidiadau.

"Falle bod y patrwm presennol yn seiliedig ar hen, hen arferion ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod o'n ddiffygiol neu ddim yn gweithio - i gael dadl gytbwys fydd rhaid cael tystiolaeth naill ffordd neu'r llall," meddai.

"Hyd yn hyn welan ni ddim tystiolaeth sy'n awgrymu bod y broses sydd gyda ni ar y funud, y broses gyfredol, yn methu'n disgyblion ni mewn un ffordd neu'r llall."

'Dim newidiadau y flwyddyn hon'

Yn ôl pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, Owain Gethin Davies, mae yna le i ailedrych ar hyd y tymhorau ond dywedodd bod angen trafodaeth ehangach gyda phobl ifanc, rhieni a'r gymuned yn ehangach.

Wrth ystyried gwyliau'r haf dywedodd: "Mae hynny bron yn ei hun yn hanner tymor o ysgol - mae'n rhaid gofyn y cwestiwn ac yn sgil y pandemig hefyd o fod i ffwrdd o safle ysgol cyhyd - be di'r effaith mae hwn yn cael ar gynnydd pobl ifanc?"

"Oes 'na effaith fwy cadarnhaol i gael gwyliau Nadolig hirach neu hanner tymor o bythefnos ym mis Hydref pan mae'r gaeaf ar droed?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni fydd unrhyw newidiadau i ddyddiadau tymhorau y flwyddyn academaidd hon.

"Fodd bynnag, mae gan y gweinidog farn ers cyfnod y dylem ystyried newidiadau hirdymor i batrwm y flwyddyn academaidd er mwyn mynd i'r afael â materion fel colli addysg, gwell cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol a thymhorau byrrach i gefnogi lles disgyblion ac athrawon.

"Sefydlodd y gweinidog banel i adolygu hyn, ac mae'n gobeithio y gall y gwaith ailddechrau'n fuan."