£72m yn fwy i helpu disgyblion ddal i fyny â'u gwersi
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n gwario £72m yn rhagor ar gynlluniau i helpu disgyblion ddal i fyny â gwersi sydd wedi'u colli ers dechrau'r pandemig.
Mae gweinidogion eisoes wedi gwario £29m, gan benodi 1,800 yn rhagor o athrawon a staff - dwbl y targed gwreiddiol a gyhoeddwyd haf diwethaf.
Bydd disgyblion sy'n astudio ar gyfer cymwysterau'n cael cefnogaeth "wedi'i deilwra ar eu cyfer", medd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Bydd rhagor o ddisgyblion Cymru'n dychwelyd i'r ysgolion o ddydd Llun nesaf.
Dychwelodd plant rhwng 3 a 7 oed i ysgolion Cymru ganol Chwefror, ac mae disgwyl i weddill y disgyblion cynradd fynd yn ôl i'w dosbarthiadau ar 15 Mawrth.
Mae miliynau o blant wedi dychwelyd i ysgolion Lloegr ddydd Llun.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r arian ychwanegol ond yn golygu bod Cymru'n cyrraedd yr un sefyllfa â gwledydd eraill y DU o ran dal i fyny â gwersi.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y cyhoeddiad yn golygu bod £239 yn cael ei wario ar bob disgybl yng Nghymru - swm uchaf y pen drwy'r DU.
Cyfnodau allweddol
"Rwy'n gwybod bod angen help ychwanegol, yn arbennig i ddysgwyr cyfnodau allweddol eu gyrfaoedd academaidd a'u bywydau," meddai Ms Williams.
"Wrth i ddysgwyr barhau i ddychwelyd i addysg wyneb yn wyneb, rydym yn darparu'r cyllid ychwanegol yma i sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol yn ei lle pan fo ein pobl ifanc yn dychwelyd i'r dosbarth."
Eglurodd mai'r bwriad yw gwario'r £72m ychwanegol i benodi mwy o staff a helpu disgyblion yn y "blynyddoedd pontio hollbwysig", gan gynnwys disgyblion sy'n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bydd £33m yn mynd i gynghorau lleol er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau gofal plant eraill i dalu costau ychwanegol sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ariannol 2020-21.
Bydd £39.15m yn cael ei roi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n dechrau ym mis Ebrill.
Mae tua £39m o'r arian yn dod oherwydd y £740m y mae Llywodraeth Cymru'n ei dderbyn drwy fformiwla Barnett yn sgil cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf.
Mae gweinidogion Cymru wedi beirniadu polisi Llywodraeth y DU i ddychwelyd holl ddisgyblion Lloegr i'r ysgolion ar yr un pryd.
Pwysleisiodd Ms Williams eto ddydd Llun bod Llywodraeth Cymru'n dilyn cyngor gwyddonol wrth ailagor ysgolion fesul cymal.
"Nôl ym mis Chwefror, roedd [pwyllgor ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth y DU] Sage yn glir iawn yn eu cyngor i'r llywodraeth bod dychwelyd fesul cymal yn hollbwysig i allu monitro'r impact ar y pandemig wrth inni symud ymlaen," dywedodd.
"Dyna rydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru."
Ymateb y gwrthbleidiau
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, mae'r £72m ychwanegol ond yn helpu cau'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU.
Fis diwethaf, dywedodd adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg bod Yr Alban yn gwario £200 y disgybl ar gynlluniau dal i fyny, Lloegr yn gwario £174 y pen a Chymru ond yn gwario £88.
"Mae'r cyhoeddiad yma ond yn ein symud ni'n ôl i fyny i ble mae gwledydd eraill y Deyrnas Unedig," meddai Mr Davies.
"Rydym yn gwybod bod hwn yn dasg anferthol oherwydd mae llawer o ysgolion ar gau ers bron i flwyddyn nawr i'r boblogaeth ysgol yn gyffredinol."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Rwy'n meddwl ein bod angen cynllun cenedlaethol. Bydde'n ddefnyddiol i gael ychydig yn fwy o fanylion na'r hyn rydym wedi eu cael eisoes am y cynllun adfer addysg.
"Nid jest one-off mo hwn - mae'r addysg sydd wedi'i golli'n golygu bod angen i ni gael cynllun dros lawer o flynyddoedd, ac mae angen inni gynyddu ein gweithlu addysg yn gyffredinol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020