Pro14: Scarlets 41-36 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Tom RogersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Tom Rogers sgoriodd 10fed cais y gêm ym Mharc y Scarlets

Mae'r Scarlets wedi sicrhau eu lle yn y tri uchaf yn Adran B y Pro14 yn dilyn buddugoliaeth mewn gêm wych yn erbyn Connacht nos Lun.

Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn tri munud gyda chais gan Aaron Shingler yn y gornel cyn i Connacht ymateb gyda dau gais - y cyntaf gan John Porch a'r ail gan Abraham Papali'i.

Daeth trydydd cais yn fuan wedi hynny gan Sean O'Brien cyn i'r capten Steff Hughes groesi'r gwyngalch i'r Scarlets.

Ond fe wnaeth ceisiau gan Papali'i a Kieran Marmion selio pwynt bonws i'r ymwelwyr a mantais o 12-33 iddynt ar hanner amser.

Y Scarlets darodd gyntaf yn yr ail hanner gyda chais arall i Hughes cyn i'r mewnwr Dane Blacker ychwanegu pedwerydd cais i'r tîm cartref i sicrhau pwynt bonws i hwythau hefyd.

Chwarter awr yn unig i fewn i'r ail hanner roedd y Cymry yn ôl o fewn dau bwynt i Connacht yn dilyn cais gan Tom Rogers - 10fed cais y gêm.

Gyda 10 munud yn weddill aeth y Scarlets ar y blaen o bwynt gyda gôl gosb gan Dan Jones cyn i'r prop Javan Sebastian ymestyn y fantais gyda chais er mwyn selio'r fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn gorffen y tymor yn y trydydd safle yn Adran B.

Nid yw'n amlwg eto beth mae hynny'n ei olygu o ran pencampwriaethau Ewrop y tymor nesaf am nad yw trefn y cystadlaethau wedi'u cadarnhau, ond mae'n debygol iawn y bydd y Scarlets yn chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.