Pro14: Gleision Caerdydd 34-15 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Gleision Caerdydd wedi sicrhau eu lle yn y pedwerydd safle yn Adran B y Pro14 wedi iddyn nhw drechu Caeredin ym Mharc yr Arfau nos Lun.

Wedi i'r ddau dîm gyfnewid goliau cosb gan Charlie Savala a Jarrod Evans daeth cais cynta'r gêm i Gaeredin gan George Taylor i'w gwneud yn 3-10 ar yr egwyl.

Ychwanegodd Evans gôl gosb arall ar ddechrau'r ail hanner cyn i gais gan y bachwr Liam Belcher roi'r Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Daeth cais arall i'r Cymry gan Rey Lee-Lo yn fuan wedi hynny cyn i Taylor sgorio ei ail gais i'r ymwelwyr.

Ychwanegodd Evans a James Ratti ddau gais arall i'r Gleision er mwyn sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws i'r rhanbarth o Gaerdydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gleision yn gorffen y tymor yn y pedwerydd safle yn Adran B, ond nid yw'n amlwg eto beth mae hynny'n ei olygu o ran pencampwriaethau Ewrop y tymor nesaf am nad yw trefn y cystadlaethau wedi'u cadarnhau.

Pynciau cysylltiedig