Nifer uchaf o balod ar Ynys Sgogwm ers y 1940au
- Cyhoeddwyd
Mae ymddiriedolaeth bywyd gwyllt wedi cofnodi'r nifer uchaf o balod ers y 1940au ar Ynys Sgogwm oddi ar Sir Benfro.
Gyda'r palod yn dychwelyd i'r ynys yr adeg yma o'r flwyddyn i baru, cafodd 11,245 eu cyfri yno gan wirfoddolwyr ddydd Llun 22 Mawrth, o'i gymharu â 8,534 y llynedd.
Dywed Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyll De a Gorllewin Cymru bod ymchwil yn cael ei gynnal i ddarganfod y rhesymau dros y cynnydd.
Mae gwirfoddolwyr eto i gyfri nifer y palod ar Ynys Sgomer, a gofnododd 34,796 ohonyn nhw yn 2020 - cynnydd o 44.3% o'r 24,108 a gofnodwyd yn 2019.
Bydd cyfrifiad swyddogol yn cael ei gynnal ar y ddwy ynys ym mis Ebrill.
'Hollol anghredadwy'
"Ar ôl treulio hyd at ddwy flynedd ar y môr, bydd palod y dychwelyd i'r tir yn y gwanwyn i nythu," medd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth, sy'n gofalu am ynysoedd Sgogwm a Sgomer ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae gwirfoddolwyr fel arfer yn cael gwahoddiad i helpu wardeniaid reoli'r ynysoedd a chyfri'r adar o Ebrill tan Fehefin.
"Ond eleni mae'r palod wedi dod yn gynnar, ac fe gafodd gwirfoddolwyr eu danfon i gyfri'r adar ar Sgogwm ym mis Mawrth."
Yr adaregydd Cymreig Ronald Lockley wnaeth gynnal astudiaethau yn 1934, gan amcangyfrif bod oddeutu 40,000 o balod ar Ynys Sgogwm.
Gostyngodd niferoedd yn sylweddol wedi hynny. Llygredd morol oedd yn gyfrifol am hynny, medd yr ymddiriedolaeth, a llygredd olew yn bennaf.
"Mae Sgogwm a Sgomer yn bwysig yn rhyngwladol am eu poblogaethau adar môr," medd Gina Gavigan o'r ymddiriedolaeth.
"Rydym mor gyffrous i roi gwybod bod ein cyfrifiad adar ar Ynys Sgogwm wedi cadarnhau bod y palod yn eu holau yn eu miloedd… 11,245 i fod yn fanwl, sy'n hollol anghredadwy.
"Mae ein tîm ar Ynys Sgogwm wedi cadarnhau mai dyma'r cyfanswm uchaf wedi'r [Ail Ryfel Byd] - uwch na'r 10,000 a gofnodwyd yn 1950, 1951 a 1953."
Ychwanegodd: "Does neb yn gwybod yn iawn pam bod poblogaeth y pala'n cynyddu yn Sir Benfro. Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Swydd Caerloyw i gynnal ymchwil i hyn.
"Mae'r pâl mewn peryg o fynd i ddifancoll yn y DU, felly rydym mor falch eu bod yn ffynnu, mae'n ymddangos, ar ein hynysoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2017