Ymgyrch i achub coeden 'eiconig' rhag cael ei thorri

  • Cyhoeddwyd
Coeden Cypreswydden Monterey ar draeth LlanusylltFfynhonnell y llun, Nicky Mallen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Cymdeithas Hanesyddol Llanusyllt cafodd y goeden ei phlannu ar y graig yn 1938

Mae ymgyrchwyr yn ceisio diogelu coeden 83 mlwydd oed ger traeth poblogaidd rhag cael ei thorri i lawr.

Mae cais wedi ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am ganiatâd i gwympo coeden ger traeth Llanusyllt (Saundersfoot), oherwydd pryderon am ei diogelwch.

Ond dywed gor-ŵyr y dyn a blannodd y goeden Cypreswydden Monterey ym 1938, ei bod hi'n "eiconig" i'r ardal.

Yn ôl rheolwyr fflatiau Beach Court, sydd wedi gwneud y cais, "gallai rhywun gael anaf angheuol" pe bai'r goeden yn disgyn yn ddirybudd.

'Balchder mai fy nheulu a'i plannodd'

Mae Cyfeillion Llanusyllt a'r Cylch yn gwrthwynebu'r cais, a dywedodd eu hysgrifennydd, Rowland Williams, bod y goeden yn nodwedd arwyddocaol ar y tirlun.

"Mae hi wedi bod yno drwy gydol fy oes, ac i fy nhad a'm tad-cu, felly mae cenedlaethau ohonom wedi gwylio'r goeden yna," meddai'r gŵr 67 oed.

Mae nodiadau sydd ym meddiant Cymdeithas Hanesyddol Llanusyllt a'r Cylch yn datgelu i'r goeden gael ei phlannu ar safle o'r enw Scar Rock ym mis Ionawr 1938, gan George Williams.

Yn ôl y nodiadau, roedd Mr Williams yn arfer dod â'r goeden i'r tŷ dros y Nadolig i gael ei haddurno gan y teulu, a oedd yn byw yn rhif 18 Stryd y Rheilffordd, bwthyn a arferai fod ar y safle ble mae fflatiau Beach Court heddiw.

Ffynhonnell y llun, Nicky Mallen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cais i gwympo'r goeden ei wneud yn 2017 hefyd

Ond pan dyfodd y goeden yn rhy fawr i gael ei defnyddio dan do, penderfynwyd ei phlannu ar Scar Rock, llecyn yr oedd y teulu'n cyfeirio ato fel eu gardd uchaf.

Dywed Gareth Williams, 38, gor-ŵyr George Williams, sydd bellach yn byw yn Sir Gaerwrangon, ei fod yn teimlo "balchder bod rhywun yn fy nheulu wedi ei phlannu yno".

"Mae'n rhywbeth sy'n cael ei charu yn arw, drwy'r wlad," meddai.

Yn ôl Cyfrifiad 1901, roedd George Williams yn gweithio fel coetsmon a gwas stabl ar stâd Hean Castle yn Llanusyllt, meddai'r teulu.

Ffynhonnell y llun, Nicky Mallen Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r goeden wedi ysbrydoli Ian Davies i gyfansoddi caneuon

Mae Ian Davies yn dweud y byddai'n arfer ymweld â'i dad-cu a'i fam-gu yn y pentref, ac y byddai'n eistedd o dan y goeden yn barddoni a chyfansoddi cerddoriaeth ers pan oedd yn 10 oed.

Mae Mr Davies, sy'n 54, bellach wedi symud i fyw i'r pentref

"Mae llawer o ganeuon wedi cael eu hysgrifennu yno ac wedi cael eu chwarae gan fandiau y bûm yn aelod ohonynt yn ddiweddarach", meddai.

"Dwi hyd yn oed yn mynd yno i eistedd heddiw i fyfyrio - ac yn cael fy ysbrydoli'n syth.

"Mae'n beth od i'w weld yn sticio'i fyny - un goeden unig wrth y traeth - ond mae'n dweud rhywbeth am natur a goroesi."

Ffynhonnell y llun, Paul Cleaver
Disgrifiad o’r llun,

Llun gafodd ei dynnu gan arbenigwr coed, Paul Cleaver, ym mis Chwefror, fel rhan o'r cais, ac sy'n dangos gwreiddiau'r goeden ar yr wyneb

Cafodd y cais i'w chwympo ei wneud ar 10 Mawrth eleni, ac mae'n dilyn cais aflwyddiannus a gyflwynwyd yn 2017 gan gwmni rheoli Beach Court, sy'n cynnwys perchnogion 26 o'r fflatiau yn y bloc.

Mae'r cais newydd yn dweud bod y goeden yn "gosod lefel annerbyniol o uchel o risg i ddiogelwch y cyhoedd".

'Anafiadau angheuol'

Mewn datganiad dywedodd cwmni rheoli Beach Court eu bod yn "bryderus iawn" am gyflwr y goeden.

"Rydym yn cytuno ei bod hi'n goeden eiconig, ac rydym yn ei charu, ond rydym yn bryderus iawn am ei chyflwr, sy'n dirywio.

"Mae cyfarwyddwyr a pherchnogion fflatiau yn poeni y gallai rhywun gael anafiadau angheuol os bydd hi'n methu yn ddisymwth.

"Mae'n hollol anghywir i ddweud ein bod wedi gwneud y cais am ei bod yn rhwystro'r olygfa o'r fflatiau. Byddwn yn dweud ei bod yn gwella'r olygfa o'r fflatiau'n sylweddol."

Pan wnaed y cais yn 2017 roedd arbenigwr coed wedi dweud mai hyd at 10 mlynedd o fywyd oedd ganddi ar ôl, meddai'r datganiad.

Ychwanega'r datganiad bod adroddiad a gomisiynwyd gan Gyfeillion Llanusyllt yn datgan y gellid ymestyn oes y goeden pe bai gwaith adfer yn cael ei wneud, ond "er bod pedair blynedd wedi pasio, nid oes unrhyw waith wedi cael ei wneud gan unrhyw awdurdod".

Dywed y cwmni mai nid nhw yw perchnogion y darn o graig sy'n ymestyn i'r traeth lle saif y goeden.