Minffordd: Mab yn ymddangos yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Thomas, 65 oed yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services.

Mae dyn 44 oed wedi ymddangos ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad, Dafydd Thomas ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth ar 25 Mawrth.

Ymddangosodd Tony Thomas drwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn, Wrecsam, gan gadarnhau ei enw.

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn Gymraeg yn bennaf gyda'r bargyfreithiwr Elen Owen yn erlyn ar ran y Goron.

Cafodd Mr Thomas ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r achos llawn, drwy gyfrwng y Gymraeg, gael ei gynnal yn Yr Wyddgrug gan ddechrau ar 15 Tachwedd.

Mae wedi dod i'r amlwg fod Heddlu Gogledd Cymru wedi cyfeirio'i hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos.

Mewn datganiad dywedodd y llu: "Ar ôl adolygu'r wybodaeth a gasglwyd dros y penwythnos, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyfeirio'i hun at yr am arolygiaeth annibynnol, yn dilyn cysylltiad heddlu diweddar."

Ffynhonnell y llun, Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tony Thomas ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun

Pynciau cysylltiedig