Minffordd: Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad
- Cyhoeddwyd

Roedd Dafydd Thomas yn ddyn busnes adnabyddus yn ardal Minffordd
Mae dyn 44 oed wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad - y perchennog busnes adnabyddus ym Minffordd ger Porthmadog yr wythnos diwethaf.
Mae Tony Thomas o Benrhyn Isaf, Minffordd, Penrhyndeudraeth, wedi ei gyhuddo o ladd Dafydd Thomas, 65, ar 25 Mawrth.

Tony Thomas yn cyrraedd Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun
Yn gwisgo siwmper lwyd a gorchudd wyneb, cadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn Llys Ynadon Llandudno.
Ni ddatgelwyd unrhyw fanylion pellach am yr achos, ond awgrymodd ei dwrnai, Owain Jones, y bydd ei gleient yn pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, a chafodd ei gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021