Minffordd: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Dafydd Thomas yn ei ddisgrifio fel "gŵr, tad a thaid rhyfeddol"
Mae dyn 44 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio gwr ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth.
Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i Dafydd Thomas, 65, gael ei ddarganfod yn farw ddydd Iau.
Bydd Tony Thomas, o Maes Y Garth, Minffordd, Penrhyndeudraeth yn mynd o flaen ynadon yn Llandudno fore Llun.
Ddydd Gwener fe dalodd teulu Mr Thomas deyrnged i "ŵr, tad a thaid rhyfeddol".
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad, ac maen nhw'n gofyn ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021