Gwyntoedd oer y gogledd
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddiwrnod mawr y cyfri ddod yn nes, roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad edrych ar Gymru fesul rhanbarth etholiadol er mwyn cynnig rhyw fath o ganllaw i chi ynghylch yr hyn y dylem ddisgwyl wrth i'r bocsys gael eu hagor ar 7 Mai.
Rwyf am gychwyn gyda rhanbarth y gogledd gan mai hon yw'r rhan o Gymru, yn fy marn i, lle y gallasai'r nifer fwyaf o seddi newid dwylo.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys naw etholaeth. O'r rheiny mae o leiaf pedair sedd yn fantol gyda marc cwestiwn yn fy mhen ynghylch dwy arall.
Y pedair sedd amlwg yw'r rheiny sydd ag Aelodau Seneddol Ceidwadol yn San Steffan ond sy'n cael eu cynrychioli gan Lafur ym Mae Caerdydd.
Y fwyaf simsan o'r rheiny yw Dyffryn Clwyd lle'r oedd mwyafrif Ann Jones yn llai na mil tro diwethaf. Gydag Ann yn ymddeol gallai hon brofi'n dalcen caled i Lafur.
Roedd mwyafrifoedd Llafur yn 2016 yn fwy cysurus yn Ne Clwyd, Delyn a Wrecsam ond roedd hynny'n rhannol oherwydd perfformiad cryf gan Ukip. Os ydy'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gronni'r pleidleisiau hynny fel gwnaeth Boris Johnson yn 2019 fe allai pethau fod yn agos a dweud y lleiaf.
Dyw Llafur ddim yn gallu bod yn gwbl sicr o'i gafael ar Alun a Glannau Dyfrdwy chwaith ond mae llai tebyg o syrthio i ddwylo'r Ceidwadwyr na'r lleill.
Er bod gan Ynys Môn Aelod Seneddol Ceidwadol bellach go brin y bydd Plaid Cymru yn ofni colli'r sedd honno nac ychwaith etholaeth Arfon sydd gyferbyn â hi.
Mae hynny ond yn gadael Aberconwy, sedd Geidwadol y mae Plaid Cymru a Llafur wedi ei hennill yn y gorffennol. Hon yw prif sedd darged Plaid Cymru yn y Gogledd ond go brin y bydd hi'n syrthio i'w dwylo os ydy'r Torïaid wedi llwyddo i ennill tir yn y gogledd ddwyrain.
Beth am y seddi rhestr felly? Os ydy Plaid Cymru yn methu cipio Aberconwy yna fe ddylai hi ennill un os nad dwy sedd restr. Fe fyddai'n rhaid i mi fentro'n bell i berfeddion system D'Hondt i esbonio'r rheswm am hyn, ond rhestr y gogledd hefyd yw'r un fwyaf addawol i blaid Abolish the Welsh Assembly.
Mae gobeithion y Ceidwadwyr a Llafur ar y rhestr yn llwyr ddibynnol ar yr hyn sy'n digwydd i'r seddi etholaethol ond pe bai hi'n ganlyniad trychinebus i Lafur fe fyddai'r rhestr yn debyg o gynnig ambell i wobr gysur iddi.