Gemma Grainger yn cyhoeddi carfan merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gemma GraingerFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Grainger wedi cael cytundeb pedair blynedd

Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed merched Cymru, Gemma Grainger, wedi cyhoeddi ei charfan i wynebu Canada a Denmarc ym mis Ebrill.

Mae'r garfan o 26 yn cynnwys amddiffynnwr Reading, Bethan Roberts - sy'n ymuno â'r garfan am y tro cyntaf.

Dywedodd Grainger, sydd wedi bod yn y swydd am lai na phythefnos, ei bod wedi dibynnu'n helaeth ar yr hyfforddwyr a oedd yn rhan o'r garfan ymarfer ym mis Chwefror i ddewis y tîm.

"Rwy'n hynod o gyffrous i wynebu dau o dimau gorau'r byd, bydd hi'n sialens wych i ni," meddai.

"Bydd y ddwy gêm yn berffaith i ni i baratoi ar gyfer ymgyrch rownd ragbrofol Cwpan y Byd Merched 2023 a'r pedair blynedd sydd i ddod."

Bydd y gêm yn erbyn Canada ar ddydd Gwener 9 Ebrill yn Stadiwm Lecwydd, Caerdydd, gyda gêm Denmarc ar ddydd Mawrth 13 Ebrill yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cymru: Laura O'Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry United), Poppy Soper (Plymouth Argyle), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Gemma Evans (Bristol City), Maria Francis-Jones (Caerdydd), Charlie Estcourt (London Bees), Hayley Ladd (Manchester United), Josie Green (Tottenham), Elise Hughes (Blackburn Rovers - ar fenthyg o Everton), Anna Filbyey (Celtic - ar fenthyg o Tottenham), Sophie Ingle (Chelsea), Angharad James (Reading), Jess Fishlock (Reading - ar fenthyg o OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Kayleigh Green (Brighton), Natasha Harding (Reading), Rachel Rowe (Reading), Helen Ward (Watford), Lily Woodham (Reading), Georgia Walters (Blackburn Rovers), Ffion Morgan (Crystal Palace), Esther Morgan (Tottenham), Ceri Holland (Lerpwl), Bethan Roberts (Reading), Kylie Nolan (Caerdydd).