Cwpan Her Ewrop: Gweilch 24-27 Newcastle Falcons
- Cyhoeddwyd
Mae tîm arall allan o gystadleuaeth Cwpan Her Ewrop wedi gêm ddramatig yn Stadiwm Liberty.
Newcastle Falcons sy'n mynd trwodd i rownd yr wyth olaf ar ôl curo'r Gweilch, er gwaethaf dechrau ardderchog i'r tîm cartref.
Ond erbyn yr egwyl roedd y gêm yn gyfartal a'r Gweilch i lawr i 13, a Newcastle gafodd y gorau o'r ail hanner i ymestyn eu mantais ac yna dal gafael arno.
Daeth cais cyntaf y gêm gan y Gweilch o fewn 10 munud - ymdrech arbennig gan Kieran Williams wnaeth goroni symudiad llawn trafod slic a ddechreuodd wedi i'r bêl gael ei dadlwytho yn eu hanner eu hunain.
Doedd dim rhaid aros yn hir am yr ail - bedair munud yn ddiweddarach fe diriodd Dan Evans ar ôl gwaith da gan Owen Watkin. Trosodd Luke Price am yr eildro i roi'r tîm cartref 14-0 ar y blaen mewn llai na chwarter awr o chwarae.
Roedd yn ymddangos fel petai'r llifddorau ar fin agor, ond fe newidiodd trywydd y gêm yn ddramatig.
Llwyddodd Newcastle i gael eu hunain yn ôl yn y gêm gan orfodi'r Gweilch i ddechrau gwneud camgymeriadau.
Y capten a blaenasgellwr Cymru, Justin Tipuric oedd y cyntaf i weld cerdyn melyn. Yn fuan iawn wedi hynny roedd yr ymwelwyr wedi haneru'r bwlch rhwng y ddau dîm, gyda chais Trevor Davison a throsiad Brett Connon.
Roedd yna gais gosb wedyn i Newcastle gan wneud y sgôr yn gyfartal, cyn i Adam Beard hefyd gael ei hel o'r maes am y tro.
Er gwaethaf dechrau mor ardderchog, roedd diffyg disgyblaeth y Gweilch wedi profi'n gostus.
Llygedyn o obaith am gyfnod
Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ddechrau'r ail hanner pan diriodd Sean Robinson gyda chais hawdd i roi Newcastle ar y blaen ar y blaen am y tro cyntaf. Ychwanegodd Connon drosiad arall i'w gwneud hi'n 14-21.
Gyda'r gêm ymddangos bod y gêm yn llithro o afael y Gweilch, fe ddychwelodd Tipuric i'r cae ac o fewn munudau roedd wedi croesi'r llinell. Ond fe gafodd y cais ei wrthod wedi dyfarniad fod Luke Price wedi pasio'r bêl ymlaen at Morgan Morris.
Wedi cyfnod o gicio anniben yn ôl ac ymlaen gan y ddwy ochor, fe gwtogodd gôl gosb Price y bwlch gyda'r ymwelwyr i 17-21.
Ond yna fe diriodd Philip van der Walt eto i ymestyn mantais Newcastle. Gyda throsiad Connon roedd hi'n 17-28.
Yna daeth lygedyn o obaith unwaith yn rhagor wedi 72 o funudau wedi i Tom Botha sgorio trydydd cais y Gweilch.
Wedi trosiad llwyddiannus Luke Price a'r sgôr yn 24-28, byddai un cais sydyn arall wedi bod yn ddigon i gipio'r fuddugoliaeth - yn enwedig wedi i gapten Newcastle, Mark Wilson gael cerdyn melyn.
Ond methodd Gweilch â gwneud i'r fantais gyfri. Llwyddodd Newcastle i osgoi ildio rhagor o bwyntiau a nhw sy'n mynd drwodd i rownd yr wyth olaf.