Cwch hwylio'n suddo ar ôl mynd ar dân yn Afon Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae cwch hwylio wedi suddo ôl mynd ar dân yn Afon Conwy ger Marina Conwy.
Dywed yr RNLI bod pawb oedd arni wedi llwyddo i'w adael yn ddiogel, ond bu'n rhaid cau'r cei am gyfnod oherwydd mwg.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod "criwiau yn bresennol" ac yn cydweithio gyda'r RNLI, Heddlu Gogledd Cymru, Gwylwyr y Glannau a'r harbwr feistr ar ôl cael eu galw yno brynhawn Sadwrn.
Roedd yna apêl i bobl gadw draw o'r ardal ac roedd modd gweld y fflamau o bell.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nos Sadwrn fe ymhelaethodd y gwasanaeth bad achub ar yr hyn a ddigwyddodd mewn datganiad ar-lein.
Roedd y criw o bedwar wedi sylwi ar fwg yn dod o hatsh gofod yr injan ac wedi ceisio delio â'r sefyllfa yn y lle cyntaf gyda diffoddwr tân eu hunain.
Ond wedi i'r tân fynd allan o reolaeth fe wnaethon nhw alwad frys ychydig wedi 13:30 "a chael eu tynnu'n llwyddiannus o'r cwch yn fuan wedyn".
Roedd yna awel o'r dwyrain, meddai, ac fe wnaeth hynny, gyda'r llanw'n dod i mewn, "gario'r cwch i fyny'r afon i gyfeiriad cei'r dref" ble roedd y bad achub Conwy yn aros amdanyn nhw. Roedd aelodau'r gwasanaethau brys eraill ar y lan.

"Erbyn hyn roedd y tân wedi hen sefydlu ac fe lithrodd y cwch ar bontŵn gyferbyn â wal y cei, a chael ei ddal yn erbyn cwch llai, a aeth hefyd ar dân yn anffodus.
"Oherwydd llif y mwg, fe benderfynwyd gau'r cei."
Gan ddefnyddio cwch yr harbwr feistr, cafodd swyddogion tân ac offer eu cludo'n agosach er mwyn diffodd y fflamau.
Ond wrth gludo'r cwch hwylio tua'r lan, medd y gwasanaeth, fe suddodd gan fod gymaint o ddifrod.
Cafodd yr ail gwch oedd wedi mynd ar dân ei symud yn ddiogel i'r lan er mwyn i'r gwasanaeth tân wneud yn siŵr bod y fflamau wedi eu diffodd yn llwyr.