Achub dyn oddi ar Bae Langland ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
RescuersFfynhonnell y llun, Tîm Achub y Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei anafu oddeutu 13:15 ddydd Sadwrn

Mae dyn wedi cael anafiadau "difrifol" wedi iddo gwympo oddi ar glogwyni ger traeth yn Abertawe.

Cafodd y dyn ei achub gan wirfoddolwyr y bad achub ac arbenigwyr ddydd Sadwrn ger Bae Langland am 13.15.

Mae'r ardal yn un lle mae pobl yn arfer neidio o blatfform uchel i'r dŵr, yn ôl neges ar dudalen Facebook Bad Achub Y Mwmbwls.

Aed â'r dyn mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac yn ôl adroddiadau mae'r anafiadau a gafodd yn rhai all effeithio ar weddill ei fywyd.

Dywed James Bolder o Wasanaeth y Bad Achub: "Ry'n yn hynod o falch bod y person oedd gyda'r dyn gafodd ddolur wedi gofyn am help ar unwaith.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol ac ry'n yn gobeithio y bydd y claf yn gwella."

Dywed gwasanaeth gwylwyr y glannau bod eu timau o Mwmbwls, Oxwich a Rhosili, hofrennydd achub, y Gwasanaeth Ambiwlans a Heddlu De Cymru wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i achub y dyn a gafodd ddolur.

Pynciau cysylltiedig