Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 14-57 Sale
- Cyhoeddwyd
Mae taith y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ben wedi iddyn nhw golli o 57-14 yn erbyn Sale adref nos Sul.
Yr ymwelwyr oedd gryfaf ac yn yr hanner awr a phum munud cyntaf roedd Akker van der Merwe wedi croesi'r gwyngalch ddwywaith ac Alan "AJ" MacGinty wedi trosi'r ddau gais a sgorio naw pwynt arall drwy giciau cosb.
Roedd blaenwyr mawr Sale yn rheoli'r gem a'r Scarlets ar ei hôl hi o 23 pwynt i ddim wedi 36 munud.
Ym mhum munud olaf yr hanner cyntaf roedd Scarlets yn bygwth Sale am y tro cyntaf o ddifri ond er eu bod o fewn medr i'r llinell ni chafodd y tîm cartref yr un pwynt cyn hanner amser.
Fe geisiodd y Scarlets ledu'r bêl yn syth ar ddechrau'r ail hanner ond fe ollyngwyd y bêl ac fe lwyddodd MacGinty i'w chipio'r ac roedd trydydd tros-gais i Sale o fewn dau funud i ddechrau'r ail hanner.
Ond roedd ysbryd newydd yn y Scarlets ac fe ddaeth cais i Ken Owens bum munud yn ddiweddarach, a Halfpenny yn trosi. Roedd Sale yn abl i daro nôl yn sydyn ac wedi gwaith cryf gan y blaenwyr fe ryddhawyd yr asgellwr Marland Yale a dyma gais arall ac fe wnaeth MacGinty gicio'n gywir eto.
Ymhen dim roedd Josh Beumont wedi croesi i Sale unwaith eto a MacGinty yn trosi ei gais, a chyda cic gosb gan MacGinty roedd Sale wedi cyrraedd hanner cant o bwyntiau.
Roedd y Scarlets yn parhau i chwarae'n frwdfrydig a'u sgarmes symudol yn gweithio'n effeithiol ac yn munudau olaf fe sgoriodd y Scarlets o dan y pyst drwy Jack Morgan ac roedd trosiad Halfpenny yn llwyddiannus.
Ond roedd Sale yr un mor benderfynol a dyma gais i Quirke a dau bwynt pellach wedi trosiad llwyddiannus MacGinty.
Roedd hon yn gem i'r Scarlets i'w hanghofio ac mae eu taith yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ben.