Robyn Wilkins i ennill ei 50fed cap yn erbyn Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Robyn WilkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robyn Wilkins wedi sgorio 77 pwynt i Gymru ers iddi ennill ei chap cyntaf yn 2014

Bydd y cefnwr Robyn Wilkins yn ennill ei 50fed cap wrth i dîm rygbi merched Cymru groesawu Iwerddon i Gaerdydd yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae'r prif hyfforddwr, Warren Abrahams wedi gwneud pedwar newid i'r tîm gafodd gweir o 53-0 yn Ffrainc, gan gynnwys Courtney Keight yn cymryd lle Jasmine Joyce, sydd ddim ar gael am ei bod yn chwarae i dîm saith-bob-ochr Prydain.

Bydd Cara Hope a Cerys Hale yn cymryd llefydd Caryl Thomas a Donna Rose yn y rheng flaen, tra bod Natalia John wedi'i ffafrio yn hytrach na Teleri Wyn Davies yn yr ail reng.

Bydd y gic gyntaf ym Mharc yr Arfau am 17:00 ddydd Sadwrn.

Mewn ymgyrch Chwe Gwlad fyrrach na'r arfer, mae Cymru'n herio Ffranc ac Iwerddon yn eu grŵp cyn cael un gêm olaf ar 24 Ebrill yn erbyn tîm sydd eto i'w benderfynu.

Tîm Cymru

Robyn Wilkins; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Courtney Keight; Elinor Snowsill, Jess Roberts; Cara Hope, Kelsey Jones, Cerys Hale, Natalia John, Gwen Crabb, Georgia Evans, Manon Johnes, Siwan Lillicrap (c)

Eilyddion: Molly Kelly, Caryl Thomas, Donna Rose, Teleri Wyn Davies, Bethan Dainton, Megan Davies, Niamh Terry, Caitlin Lewis.