Van der Gugten yn achub batiad Morgannwg yn Sir Efrog

  • Cyhoeddwyd
Dan DouthwaiteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dan Douthwaite, gyda'i sgôr o 57, yn un o'r rheiny i achub Morgannwg

Cafodd Morgannwg ddiwrnod da i agor eu tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Iau er gwaethaf dechrau anodd yn erbyn Sir Efrog.

Cafodd y tîm cartref ddechrau gwych wedi iddyn nhw alw'n gywir a phenderfynu rhoi Morgannwg i mewn i fatio gyntaf.

Er i Kiran Carlson sgorio 55 o rediadau, cafodd yr ymwelwyr eu cyfyngu i sgôr o 132-7 ar un adeg.

Ond llwyddodd Dan Douthwaite (57) a Timm van der Gugten (80 heb fod allan) i sefydlogi pethau a helpu'r Cymry tuag at sgôr o 310-8 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf.

Bydd Morgannwg felly yn parhau gyda'u batiad cyntaf ar ddechrau'r ail ddiwrnod fore Gwener.

Pynciau cysylltiedig