Menyw wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A470
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Dolgellau brynhawn dydd Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd - wagen godi ac un o gerbydau cludo y Gwasanaeth Ambiwlans - ger Talrafon, rhwng Dolgellau a Llanelltyd am 13:12.
Cafodd tri o bobl eu trin a'u cludo i'r ysbyty.
Cafodd gyrrwr y cerbyd ambiwlans ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol.
Fe gafodd gyrrwr y wagen godi ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gydag anaf i'w goes.
Bu farw menyw, oedd yn glaf ac yn teithio yn y cerbyd ambiwlans, ar ei ffordd i'r ysbyty.
Mae ei theulu a'r crwner wedi cael gwybod, ac mae'r ffordd yn dal ar gau.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu'r fenyw yn y cyfnod anodd yma.
"Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A470 ac sydd â lluniau dash-cam i gysylltu gyda ni ar unwaith.
"Mae'r A470 rhwng Dolgellau a Llanelltyd yn parhau ar gau er mwyn i'n cydweithwyr o'r Uned Ymchwilio Damweiniau wneud eu gwaith."
Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu all fod o gymorth i'r ymchwiliad, gysylltu gyda'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod Z047820.