Gwobr ariannol am wybodaeth wedi achos llofruddiaeth Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr

Mae elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr ariannol am wybodaeth ynglŷn â marwolaeth dyn ifanc yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Tomasz Waga, 23 oed, ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar Westville Road, Penylan tua 23:30 nos Iau, 28 Ionawr.

Mae Crimestoppers wedi lansio apêl am wybodaeth ddienw i ddod o hyd i dri dyn ar frys, sy'n dod o Albania yn wreiddiol.

Mae gwobrau o hyd at £5,000 yr un ar gyfer y tri - Josif Nushi, 26 oed, Mihal Dhana, 27, a Gledis Mehalla, 19.

Mae ganddyn nhw gysylltiadau â Lushnje yn Albania a'r gred ydy eu bod wedi ffoi o Gaerdydd y diwrnod ar ôl y llofruddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Crimestoppers
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn awyddus i ddod o hyd i Josif Nushi, Mihal Dhana a Gledis Mehalla

Y gred ydy fod Mr Waga wedi teithio o ardal Dagenham yn Llundain ar y dydd Iau i gyfeiriad ar Ffordd Casnewydd, lle digwyddodd cythrwfl.

Bu farw Mr Waga wedi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio'n "ymosodiad hir".

Clywodd cwest fis diwethaf bod archwiliad post-mortem wedi canfod anafiadau i'r pen a'r bron.

Cafwyd hyd i ffatri canabis yn yr eiddo ar Ffordd Casnewydd a chredir bod ei farwolaeth yn gysylltiedig â throsedd cyfundrefnol.

Mae nifer o bobl eisoes wedi'u harestio, a dau yn wynebu cyhuddiadau, mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Achos ysgytwol'

I gynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad, mae Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £5,000 am wybodaeth sy'n arwain at arestio un o'r tri dyn.

Dywedodd Mick Duthie, cyfarwyddwr gweithrediadau Crimestoppers: "Roedd Tomasz yn fab, brawd, tad a phartner poblogaidd i'w gariad.

"Mae hwn yn achos ysgytwol ac mae ei anwyliaid yn haeddu atebion.

"Mae ein helusen yn cefnogi'r ymchwiliad gan cynnig gwobrau ac yn apelio am wybodaeth ddienw gan y cyhoedd am eu lleoliad.

"Mae eu hangen ar frys i'w cwestiynu a chynghorir chi i beidio â mynd atyn nhw os byddwch yn eu gweld."

Mae modd cysylltu â nhw ar Crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio 0800 555 111.

Pynciau cysylltiedig