'Cefnogaeth Dug Caeredin wedi bod yn allweddol'

  • Cyhoeddwyd
Dug Caeredin yn ifancFfynhonnell y llun, Getty Images/Alamy
Disgrifiad o’r llun,

'Er o dras brenhinol roedd dyddiau plentyndod yn anodd i'r tywysog ifanc'

"Mae cryfder y sefydliad brenhinol ym Mhrydain i'w briodoli'n rhannol i Ddug Caeredin," medd yr hanesydd Hefin Mathias.

Roedd yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad o farwolaeth y Dug yn 99 oed ddydd Gwener.

"Mae'r sefydliad brenhinol ym Mhrydain yn gwbl unigryw - hynny i'w briodoli i'r Frenhines yn bennaf ond roedd rôl y Tywysog Philip wrth ei hochr yn eithriadol bwysig.

"Er ei fod yn dod o wehelyth brenhinol doedd ei fywyd cynnar ddim yn hawdd," meddai Dr Mathias ar raglen Dros Ginio Radio Cymru.

"Roedd e'n perthyn, wrth gwrs, i deulu brenhinol Groeg - gwlad y gwnaeth Prydain chwarae rhan bwysig yn sicrhau ei hannibyniaeth oddi wrth Twrci.

"Ond roedd ei dad wedi ei gyhuddo o fethu yn y frwydr honno ac felly fe wnaeth y Democratiaid yng Ngroeg droi yn erbyn y teulu brenhinol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogaeth y Dug Caeredin i'r Frenhines a'r frenhiniaeth yn allweddol, medd haneswyr

Ychwanegodd: "Bu ei dad yn ffodus i beidio gael ei ddienyddio a bu'n ŵr alltud - canlyniad hyn oedd bod Philip wedi wynebu cyfnod anodd yn seicolegol.

"Roedd y teulu wedi chwalu - ei fam yn dioddef o iselder ysbryd a phan yn ifanc cafodd ei drosglwyddo o un teulu i'r llall.

"Bu mewn sawl ysgol ond mae'n sicr i Ysgol Gordonstoun yn Yr Alban gael gryn ddylanwad ar ei fywyd - roedd yr ysgol honno yn nodedig am ddatblygu disgyblion i fod yn arweinwyr cymdeithasol ac fe wnaeth y Philip ifanc elwa yn fawr.

"Mae'n sicr i'r addysg a gafodd yma ei ysgogi i sefydlu Gwobr Dug Caeredin - gwobr addysgol bwysig sy'n cael ei chydnabod ym Mhrydain ac yn rhyngwladol."

Ffynhonnell y llun, Fox Photos/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Philip wedi gwisgo ar gyfer cynhyrchiad o 'Macbeth' yn Ysgol Gordonstoun, Gorffennaf 1935

O ystyried bod pwysau brenhinol wedi dod ar ysgwyddau y Frenhines a'r Tywysog Philip yn ifanc wedi marwolaeth Siôr y Chweched, tad y Frenhines, ychwanegodd Dr Mathias bod cefnogaeth ei gŵr wedi bod yn dra phwysig ac hanfodol i'r Elizabeth ifanc.

"Roedd y frenhinaeth wedi'i hatgyfnerthu gan yr Ail Ryfel Byd ac un o'r pethau wnaeth Philip oedd sicrhau parhad y poblogrwydd - roedd e am sicrhau, er enghraifft, bod y coroni yn 1953 yn cael ei ddarlledu ar y teledu.

"Roedd ei gefnogaeth i Elizabeth - a hithau yn ferch mor ifanc pan gollodd ei thad, yn hynod bwysig," ychwanegodd Dr Mathias.

'Dyn ei gyfnod'

Wrth groniclo ei fywyd ar Dros Ginio dywedodd yr hanesydd Dr Elin Jones bod dyletswydd yn air allweddol wrth edrych yn ôl ar ei fywyd.

"Fe ymgymerodd ag amrywiol ddyletswyddau yn ddyn ifanc," meddai.

"Er ei gefndir breintiedig rhaid cofio iddo orfod ffoi ac roedd ei ddyddiau cynnar yn anodd ar adegau.

"Roedd e wedi glynu at ddiddordebau ei ddosbarth sef hela, marchogaeth, gyrru cerbydau ac roedd gyrfa dda yn y llynges yn bwysig iddo.

"Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio yw ei fod yn ddyn a oedd yn perthyn i gyfnod - cyfnod sydd bellach wedi diflannu ac ers ei eni bron i ganrif yn ôl mae nifer iawn o newidiadau cymdeithasol wedi digwydd.

"Roedd e'n ddyn o'i oes a'i ddosbarth a dyna oedd i gyfrif am ambell sylw ffraeth, ei ragfarnau a'i hiwmor ac eto roedd e'n arweinydd ac yn nodedig am ei synnwyr cyffredin a byddai'n ddigon parod i ddod â phobl lawr beg neu ddau os oedd angen.

"Beth sy'n bwysig heddiw yw cofio am y pethau da. Fel gweddw dwi'n cydymdeimlo â theulu sydd wedi colli gŵr, tad, tad-cu ac hen dad-cu - mae'r Tywysog Philip wedi bod yn rhan o'u bywyd am gyfnod mor hir."

Pynciau cysylltiedig