Y Llewod: Tri Chymro ymysg tîm hyfforddi Warren Gatland

  • Cyhoeddwyd
Hon fydd pedwaredd taith Neil Jenkins (dde) gyda'r Llewod fel hyfforddwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Jenkins (dde) - fel Warren Gatland (chwith) - wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi'r Llewod yn 2009, 2013 a 2017

Mae prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, wedi enwi tri Chymro ymysg ei dîm hyfforddi ar gyfer y daith i Dde Affrica.

Bydd Neil Jenkins yn cychwyn ar ei bedwaredd daith fel hyfforddwr, tra bod Steve Tandy a Robin McBryde yn teithio am y tro cyntaf fel rhan o'r tîm hyfforddi.

Prif hyfforddwr yr Alban, Gregor Townsend, fydd yn arwain ymosod y Llewod yn yr haf.

Tandy ydy hyfforddwr amddiffyn yr Alban, tra bod cyn-hyfforddwr blaenwyr Cymru, McBryde, bellach yn is-hyfforddwr yn Leinster.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Robin McBryde gael ei enwi yn nhîm hyfforddi'r Llewod

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi ymgynnull tîm hyfforddi o ansawdd uchel," meddai Gatland.

"Mae'n grŵp cryf iawn ac rwy'n gyffrous o weld beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd - rwy'n credu y byddwn ni i gyd yn cyd-weithio'n dda yn Ne Affrica."

Mae disgwyl i Gatland enwi ei garfan chwarae ym mis Mai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steve Tandy, 41, yn brif hyfforddwr y Gweilch rhwng 2012 a 2018

Roedd amheuaeth a fyddai'r daith i Dde Affrica yn mynd yn ei blaen oherwydd y pandemig coronafeirws.

Ond ym mis Mawrth gwrthodwyd cynllun wrth gefn i chwarae gemau ym Mhrydain ac Iwerddon gan drefnwyr y Llewod.

Mae'r amserlen wyth gêm wreiddiol, gyda phrawf baratoadol yn erbyn Japan yn Murrayfield, yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.

Mae'r gêm brawf gyntaf yn erbyn y Springboks - pencampwyr y byd - wedi'i threfnu ar gyfer 24 Gorffennaf.

Amserlen taith y Llewod, De Affrica 2021

  • 26 Mehefin - Japan (Murrayfield, Caeredin)

  • 3 Gorffennaf - DHL Stormers (Stadiwm Cape Town)

  • 7 Gorffennaf - 'South Africa Invitational' (Stadiwm Nelson Mandela Bay, Port Elizabeth)

  • 10 Gorffennaf - Cell C Sharks (Jonsson Kings Park, Durban)

  • 14 Gorffennaf - Tîm 'A' De Affrica (Stadiwm Mbombela, Nelspruit)

  • 17 Gorffennaf - Vodacom Bulls (Loftus Versfeld, Pretoria)

  • 24 Gorffennaf - Prawf cyntaf v Springboks (Soccer City, Johannesburg)

  • 31 Gorffennaf - Ail brawf v Springboks (Stadiwm Cape Town)

  • 7 Awst - Trydedd prawf v Springboks (Ellis Park, Johannesburg)

Pynciau cysylltiedig