Canser y fron wedi 'dwyn bywyd' mam o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Justine JianikosFfynhonnell y llun, Justine Jianikos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Justine Jianikos ddiagnosis o ganser y fron bedwar diwrnod cyn y Nadolig

Dywed mam o Bont-y-Pŵl bod canser wedi "dwyn ei bywyd" ar ôl oedi wrth ganfod ei salwch - a bellach does dim modd ei gwella.

Mae Justine Jianikos bellach wedi dechrau ysgrifennu cardiau ar gyfer ei merched Josie, 9, Halle, 6, a Ruby, 5, ar gyfer y cerrig milltir y bydd hi'n eu colli - penblwyddi, priodasau, a hyd yn oed pasio eu profion gyrru.

"Er nad ydw i am fod yma ar eu cyfer, mae angen iddyn nhw gael rhywbeth i wybod fy mod i bob amser yn meddwl amdanyn nhw," meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod nhw'n ymchwilio i bryderon Ms Jianikos.

Aros am dri mis

Roedd Justine ond yn 29 oed pan sylwodd ar lwmp ger ei chesail fis Mai diwethaf.

Dywed wrthi i ddechrau mai fibroadenoma oedd, sef lwmp brasterog sy'n aml yn digwydd yn y fron.

Tyfodd y lwmp i oddeutu 5cm mewn diamedr ac erbyn mis Medi, roedd wedi mynd yn boenus felly fe aeth yn ôl at ei meddyg teulu.

"Y tro hwn fe gymerodd dri mis i mi gael fy ngweld yng nghlinig y fron", meddai.

"Ar ôl derbyn copi o fy nodiadau meddygol, fe wnaethon ni sylwi ar rhywbeth wedi'i nodi ddwywaith, mewn print bras, 'brys, amheuaeth o ganser'. Ond fe gymerodd dri mis."

Ym mis Rhagfyr, cafodd gynnig biopsi - rhywbeth sydd ddim fel arfer yn cael ei gynnig i ferched o dan 30 oed, meddai - a chafodd ddiagnosis o ganser y fron bedwar diwrnod cyn y Nadolig.

Daeth i'r amlwg bod ganddi fath prin a ffyrnig o'r salwch, a'i fod wedi lledaenu i'w hasgwrn cefn a'i hysgyfaint.

Dywedodd bod ei oncolegydd yn meddwl pe bai ei chanser wedi'i ddarganfod yn gynharach, y gallai pethau wedi bod yn wahanol.

Ffynhonnell y llun, Justine Jianikos
Disgrifiad o’r llun,

Justine Jianikos yn cael torri ei gwallt gan ei merch Halle

"Dwi nawr yn edrych ar fywyd gwahanol iawn. Am weddill fy oes, dwi'n mynd i fod yn ymladd i ddal gafael ar fy mywyd. Mae hynny'n frawychus iawn."

"Dwi wedi dweud wrth fy hun, cyn belled â fy mod yn medru deffro a gwneud brecwast i fy ngenod bach, cyn belled â fy mod yn medru mynd â nhw i'r ysgol, a bod yn fam arferol iddyn nhw, dyna'r cyfan sydd angen iddyn nhw ei wybod."

Mae Justine yn dechrau ei phumed rownd o gemotherapi yr wythnos hon ac yna mae ganddi un arall i fynd.

"Mae pobl yn edrych ymlaen at y diwrnod pan mae nhw wedi dod i'r diwedd, ac y maent yn cael canu'r gloch.

"I mi, dyna fydd y diwrnod mwyaf dychrynllyd fy mywyd oherwydd dwi'n gwybod ar ôl hynny bydd dim rhagor o gyffuriau yn fy nghorff yn ceisio ymladd yn erbyn y canser nes bod fy nghynllun triniaeth nesaf yn cael ei lunio."

Ffynhonnell y llun, Justine Jianikos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Justine Jianikos wedi bod yn ysgrifennu cardiau ar gyfer cerrig milltir bywydau ei phlant

Mae triniaeth pellach ar y GIG yn dal yn aneglur, felly mae teulu a ffrindiau Justine yn y broses o godi £100,000 i geisio ariannu triniaethau amgen preifat a allai helpu i ymestyn ei bywyd, gan gynnwys y cyffur Trodelvy sydd ond wedi'i drwyddedu yn yr UDA.

"Ni alla i achub fy hun, ond mi fedrai achub rhywun arall drwy godi ymwybyddiaeth o ganser y fron negyddol triphlyg, neu ganser yn gyffredinol," meddai.

"Os oes unrhyw beth nad ydych chi'n siŵr amdano, ewch i gael golwg arno ac ymddiried yn eich greddf - rydych chi'n adnabod eich corff eich hun."

Bwrdd iechyd yn ymchwilio

Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd Aneurin Bevan: "Mae'n ddrwg iawn gennym nad yw Ms Jianikos yn hapus gyda'r gofal y mae hi wedi'i dderbyn.

"Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i mewn i'w phryderon a byddwn yn ei hysbysu'n llawn am ddatblygiadau'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig