Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-2 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
Will VaulksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Will Vaulks gydag ergyd i gornel isa'r rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi

Cafodd Caerdydd ergyd i'w gobeithion o gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal gyda Blackburn Rovers brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen wedi 27 munud wrth i'r Cymro Will Vaulks ergydio i gornel isa'r rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl cyn hanner amser gyda gôl gan Adam Armstrong i'w gwneud yn 1-1 ar yr egwyl.

Gydag 20 munud yn weddill aeth Caerdydd yn ôl ar y blaen wedi i Joe Ralls rwydo yn dilyn gwaith da rhyngddo ef a Harry Wilson.

Ond yn y munudau olaf daeth Blackburn yn ôl yn gyfartal wrth i Armstrong ychwanegu ei ail gôl o'r gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros yn yr wythfed safle yn y tabl - naw pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle gyda phum gêm yn weddill.