Chwe Gwlad Merched: Cymru 0-45 Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Cafodd tîm rygbi merched Cymru gweir arall ddydd Sadwrn wrth i'w hymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad barhau yn erbyn Iwerddon.
Roedd Cymru ar ei hôl hi wedi dau funud yn unig wrth i'r cefnwr Eimear Considine groesi am gais cynnar i'r Gwyddelod, cyn i Beibhinn Parsons ychwanegu dau gais o fewn ychydig funudau.
Fe wnaeth Iwerddon sicrhau'r pwynt bonws wedi 18 munud wrth i Considine sgorio ei hail gais, a llwyddodd Sene Naoupu i ychwanegu pumed cais i'w gwneud yn 0-31 ar yr egwyl.
Roedd hi'n gêm llawer fwy cyfartal yn yr ail hanner, cyn i Dorothy Wall sgorio chweched cais Iwerddon gyda 10 munud yn weddill cyn i Hannah Tyrrell ychwanegu seithfed yn yr eiliadau olaf.
Mewn ymgyrch Chwe Gwlad fyrrach na'r arfer, mae Cymru'n herio Ffranc ac Iwerddon yn eu grŵp cyn cael un gêm olaf ar 24 Ebrill yn erbyn tîm sydd eto i'w benderfynu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2021