BAFTA i Anthony Hopkins am yr actor gorau
- Cyhoeddwyd

Y Cymro Anthony Hopkins a gipiodd y wobr am yr actor gorau yn seremoni rithiol BAFTA 2021 yn Neuadd Albert, Llundain a hynny am ei bortread o Anthony sef y tad yn y ffilm The Father.
Addasiad cyfarwyddwr y ffilm, Florian Zeller, o'i ddrama lwyfan Ffrengig Le Père yw The Father.
Mae'n adrodd hanes hen ŵr sydd yn araf golli ei gof ac yn mynd yn amheus o gariad a chymhellion ei deulu.
Gwelwyd y ffilm gyntaf yn 2020 ond ym mis Mehefin eleni fydd y dangosiad cyntaf ym Mhrydain.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau Covid ond doedd yr actor o Bort Talbot ddim yn gallu bod yn bresennol ar y we ac fe dderbyniwyd y wobr am ei ran gan Florian Zeller.

Roedd y Gymraes Morfydd Clark wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Seren Newydd EE am ei pherfformiad fel Maud yn y ffilm arswyd seicolegol Saint Maud.
Y cyhoedd oedd yn dewis yr enillydd i'r wobr hon a Bukky Bakray gipiodd y wobr.