Achub para-gleidiwr o goeden ger Llandrindod ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Cafodd y claf ei hedfan i'r ysbyty gan dîm Gwylwyr y Glannau
Cafodd para-gleidiwr ei gludo i'r ysbyty ar ôl cwympo tua 200 troedfedd i mewn i goeden ddydd Sul.
Cafodd y dyn, a gafodd anafiadau i'w ben, ei goes a'i belfis, ei ddal mewn canghennau coeden ar ochr bryn anghysbell uwchben pentref Hundred House ger Llandrindod, Powys.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i'r digwyddiad gan y Gwasanaeth Ambiwlans am 14:07.
Cafodd criwiau o Rydaman, Pontardawe ac Aberystwyth, ynghyd â diffoddwyr tân o Landrindod a Llanfair-ym-Muallt, eu hanfon i gynorthwyo gyda'r gwaith o achub y dyn.
Yn y pen draw cafodd y gŵr ei godi i fwrdd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu'n rhaid i dîm achub mynydd y Bannau godi'r para-gleidiwr oddi ar ochr y llethr cyn ei gario at hofrennydd Gwylwyr y Glannau