Cymru 1-1 Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Jess Fishlock yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock sgoriodd dros Gymru ar yr awr

Cyfartal oedd hi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Denmarc - ail gêm Cymru dan y rheolwr newydd, Gemma Grainger.

Cyn y gic gyntaf fe gyflwynodd yr Athro Laura Macallister a Llywydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Kieran O'Connor gap arbennig i ymosodwr Cymru, Kayleigh Green yn dilyn 50 ymddangosiad i'w gwlad yn y gêm nos Wener.

Ym munudau agoriadol y gêm roedd Denmarc yn dangos pam eu bod yn cael eu hystyried yn un o'r timau gorau yn y byd.

Daeth cyfle cyntaf yr ymwelwyr wedi 12 munud - Thrige Andersen yn rhydd yn y cwrt cosbi ac yn penio'r bêl dros y trawst o chwe llath.

Wedi 24 munud fe aeth Denmarc yn haeddiannol ar y blaen, Holland yn colli'r meddiant i Gymru a Denmarc yn gwrth-ymosod gyda Harder yn pasio'r bêl heibio O'Sullivan yn y gôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad James yn ddylanwadol yng nghanol y cae i Gymru

Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner yn well gydag Angharad James a Natasha Harding yn ffurfio patrymau bygythiol yng nghanol y cae.

Roedd Cymru hefyd yn fygythiol o giciau gosod, ac fe ddaeth eu haeddiant ar yr awr.

Chwarae gwych rhwng James ac Harding yng nghanol cae unwaith eto ac fe darodd Jess Fishlock foli wych o groesiad gan Harding o'r asgell dde.

Llwyddodd Cymru i wrthsefyll pwysau'r ymwelwyr ym munudau olaf y gêm gan sicrhau fod y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Fe allai Gemma Grainger fod yn falch o'r canlyniad yn erbyn un o gewri pêl-droed rhyngwladol merched gydag ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2023 yn dechrau yn ddiweddarach eleni.