Pennod newydd i dîm pêl-droed merched Cymru
- Cyhoeddwyd

Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai Gemma Grainger fydd yn olynu Jayne Ludlow fel rheolwr tîm cenedlaethol merched Cymru.
Mae Gemma Grainger wedi bod yn gweithio gyda thimau pêl-droed merched Lloegr o wahanol oedran dros y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys tîm dan-20 Lloegr yng Nghwpan y Byd 2014, a'r tîm dan-17 yn 2016.
'Esgidiau mawr i'w llenwi'
Mae dylanwad Jayne Ludlow, cyn-reolwr y garfan a adawodd ym mis Ionawr, ar bêl-droed merched Cymru yn sylweddol yn ôl Owain Llŷr, gohebydd chwaraeon BBC Cymru:
"Mae gan Gemma Grainger esgidiau mawr i'w llenwi," meddai. "Roedd Jayne Ludlow yn rheolwr poblogaidd ymysg y chwaraewyr, ac fe lwyddodd i wneud Cymru'n dîm mwy cystadleuol.
"Ond yn y pen draw mi fethodd hi ag arwain Cymru i rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau, ac oherwydd hynny mi benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod angen newid."

Gemma Grainger yn rhan o dîm hyfforddi merched Lloegr yn 2017 gyda dau Gymro; cyn-reolwr Merched Lloegr, Mark Sampson a'r hyfforddwr Geraint Twose
Yn 38 oed mae Grainger yn rheolwr ifanc i gymryd yr awenau ar y tîm cenedlaethol, ond mae hi'n brofiadol gan ennill cymhwyster hyfforddi proffesiynol UEFA yn 2016 ac mae hi wedi hyfforddi clybiau Leeds United a Middlesbrough yn y gorffennol.
Yn ogystal â'r timau iau, mae Gemma Grainger wedi gweithio gyda thîm cyntaf merched Lloegr hefyd, ac mae Owain Llŷr yn credu y dylai'r penderfyniad i benodi Grainger fel rheolwr fod yn rhywbeth i greu cyffro ymysg cefnogwyr Cymru.
'Pwyslais ar ymosod'
"Mae penodiad Grainger yn un cyffrous. Er mai dyma ei swydd gyntaf fel rheolwr, mae ganddi lot fawr o brofiad hyfforddi. Mi oedd hi'n rhan o dîm hyfforddi Lloegr yn Ewro 2017 pan lwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
"Mae hi'n amlwg wedi gwneud ei phrentisiaeth, ac mae hi'n teimlo ei bod hi'n barod am y cyfrifoldeb o fod yn rheolwr.
"Gweithio gyda'r ymosodwyr oedd ei swydd gyda Lloegr, sy'n awgrymu y bydd hi'n rhoi lot o bwyslais ar yr ymosod yn ei rôl newydd," meddai Owain Llŷr.
Bydd Grainger wrth y llyw wrth i Gymru chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn Canada ar 9 Ebrill a Denmarc ar 13 Ebrill, gyda'r gemau yma'n gyfle i'r rheolwr greu argraff.

Y rheolwr newydd yn paratoi carfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Canada a Denmarc
Mae Cymru'n eistedd yn safle 31 yn netholion y byd FIFA ar hyn o bryd, ac er i'r garfan fethu o drwch blewyn i gyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer Euro 2022, cafwyd cyfres o ganlyniadau da gyda'r unig ddwy golled wedi bod yn erbyn Norwy o 1-0 ar y ddwy achlysur.
'Pêl-droed cyffrous'
"Y gobaith ydi felly y gwelwn ni Gymru yn chwarae pêl-droed cyffrous yn ystod y blynyddoedd nesaf," meddai Owain Llŷr.
"Mae Grainger yn cychwyn ei chyfnod wrth y llyw gyda dwy gêm gyfeillgar anodd yn erbyn Canada a Denmarc, ond o leiaf ei fod o'n gyfle iddi hi gychwyn rhoi ei stamp ar y garfan."

Hefyd o ddiddordeb: