Y Bencampwriaeth: Reading 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Reading v CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Doedd cic hwyr o'r smotyn ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd oddi cartref yn erbyn Reading yn y Bencampwriaeth nos Wener.

Kieffer Moore wnaeth sgorio gydag ergyd droed dde i dop cornel chwith y rhwyd, yn dilyn trosedd arno gan Omar Richards yn y cwrt cosbi wedi 85 o funudau.

Ond bu'n rhaid chwarae pum munud ychwanegol am anafiadau ac yn yr olaf o'r rheini fe beniodd Yakou Meite i'r rhwyd i dorri calonnau'r Adar Gleision.

Cafodd Caerdydd ddechrau addawol ac roedd angen arbediad da i atal ergyd gan Harry Wilson.

Ond Reading gafodd y gorau o'r chwarae yn ystod hanner cyntaf digon diflas, a gwastraffu eu cyfleoedd gorau wnaethon nhw wedyn wedi'r egwyl, sy'n ergyd i'w gobeithion o fod â rhan yn y gemau ailgyfle.

Ni ddaeth Caerdydd yn agos at sgorio yn yr ail hanner hyd nes dau gyfle o fewn munud - ergyd wan gan Moore at y golwr Rafael, ac yna dinc gan Wilson dros ben y golwr y bu'n rhaid ei chlirio o'r lein.

Llwyddodd yr Adar Gleision i wrthsefyll mwy o bwysau cyn y gic gosb am y drosedd yn erbyn Moore, a rwydodd yn bendant gyda phum munud o'r 90 yn weddill.

Ond roedd peniad Meite yn ergyd enfawr i obeithion Caerdydd o gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn wythfed yn y tabl, saith pwynt tu ôl i Reading sy'n seithfed, ac mae'r rheolwr Mick McCarthy wedi datgan mai prin bellach yw'r gobeithion o orffen o fewn chwe safle uchaf y Bencampwriaeth eleni.