Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Wycombe Wanderers
- Cyhoeddwyd
Fe frwydrodd Abertawe yn ôl o 2-0 i lawr i hawlio pwynt yn erbyn Wycombe Wanderers yn Stadiwm Liberty.
Sgoriodd Jamal Lowe (o'r smotyn) a Liam Cullen ddwy gôl hwyr i'r Elyrch i ddod â'r sgôr yn gyfartal.
Roedd Admiral Muskwe a Garath McCleary wedi rhoi'r ymwelwyr - sydd ar waelod y tabl - ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner.
Mae'r canlyniad - yn ogystal â'r ffaith fod Brentford wedi cael gêm gyfartal hefyd - yn golygu fod Norwich yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Abertawe yn parhau yn y trydydd safle, gyda phedair gêm yn weddill.