Carlson yn rhoi llygedyn o obaith i Forgannwg yn erbyn Sussex

  • Cyhoeddwyd
Carlson

Llwyddodd y Cymro ifanc, Kiran Carlson i gymryd y gêm rhwng Morgannwg a Sussex i'r diwrnod olaf yng Ngerddi Soffia.

Mae'r tîm cartref, ar 258-5, yn arwain gan ddim ond 62 o rediadau yng Nghaerdydd ar ôl tridiau o chwarae.

Roedd Carlson yn 129 heb fod allan - ei ail 100 o'r gêm.

Ef ydy'r Cymro cyntaf i wneud hynny dros Forgannwg mewn 16 mlynedd.

Ond mae Sussex yn dal i fod yn ffefrynnau i sicrhau buddugoliaeth.

Diwrnod 3:

Morgannwg (batiad cyntaf) 285: Carlson 127*; Robinson 4-50 & 258-5 (ail fatiad): Carlson 129*; Robinson 4-59

Sussex (batiad cyntaf) 481: Van Zyl 113; Garton 97; Hogan 4-46

Pynciau cysylltiedig