Liam Williams yn colli i Demetrius Andrade yn Hollywood

  • Cyhoeddwyd
Liam Williams ac Andrade

Fe gollodd Liam Williams ei her yn erbyn pencampwr pwysau canol y WBO, Demetrius Andrade trwy benderfyniad pwyntiau unfrydol yn Hollywood, Florida.

Cafodd y Cymro ei daro i'r llawr yn rownd dau, ond fe lwyddodd i fynd â'r frwydr y pellter.

Defnyddiodd yr Americanwr ei brofiad ac roedd yn drawiadol mewn cyfnodau, tra bod Williams yn ei chael hi'n anodd i lanio ei ergydion.

Sgoriodd y beirniaid y sgôr yn 118-109, 118-109 a 116-111.

Roedd Williams, 28, wedi colli ddwywaith i Liam Smith yn 2017 cyn nodi saith buddugoliaeth yn olynol i ennill ei ergyd at y teitl.

Ond roedd rhywfaint o ddrwgdeimlad cyn yr ornest, gydag Andrade, 33, heb ei blesio â safon ei wrthwynebydd gorfodol.

Ychydig o barch a ddangosodd Andrade, ond wrth i'r gloch olaf ganu nos Sadwrn, roedd yn sicr yn gwybod ei fod wedi bod mewn ffeit.

Pynciau cysylltiedig