Morgannwg yn colli gartref i Sussex

  • Cyhoeddwyd
Kiran Carlson
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Kiran Carlson lygedyn o obaith i Forgannwg

Morgannwg 285 & 349 v Sussex 481 & 154-2

Fe gollodd Morgannwg o wyth wiced i Sussex yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.

Roedd y Cymro ifanc, Kiran Carlson wedi llwyddo i gymryd y gêm i'r diwrnod olaf gyda dau fatiad gwych.

Ef oedd y Cymro cyntaf i sgorio dau 100 mewn gêm dros Forgannwg mewn 16 mlynedd.

Ond roedd Sussex yn rhy gryf ac fe lwyddodd yr ymwelwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth gydag wyth wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig