Teyrnged i ddyn fu farw ar ôl cael ei daro gan fws

  • Cyhoeddwyd
Wayne MartinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i farwolaeth Wayne Martin

Mae teulu dyn fu farw ar ôl iddo gael ei daro gan fws yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Wayne Martin, 77 oed, ei daro gan fws Stagecoach tra'n cerdded ar Heol Porth, Porth, ychydig wedi 11:00 ddydd Mawrth.

Bu farw yn y fan a'r lle, "er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd", meddai Heddlu'r De.

Maen nhw'n parhau i ymchwilio i'w farwolaeth.

'Uchel ei barch'

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: "Roedd Wayne yn byw yn Nhrehafod drwy gydol ei fywyd.

"Am y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith, a hyd at ei ymddeoliad, bu'n gweithio yn ffatri Hoover.

"Roedd yn aelod o glybiau Wayne Morgan a'r Lleng Brydeinig yn ardal Trehafod.

"Roedd ganddo gariad mawr at rygbi ac roedd yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Pontypridd tan y clo Covid.

"Gwyliau a cherddoriaeth y 60au a'r 70au oedd rhai o'i ddiddordebau.

"Roedd yn aelod uchel ei barch o ardal Trehafod, lle gwelwyd ef yn aml yn cerdded gyda'i droli siopa, a bydd colled fawr ar ei ôl gan ei ffrindiau a'i deulu niferus.

"Fel teulu, hoffem ddiolch i'r holl wasanaethau cyhoeddus ac achosion brys a roddodd gymorth."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r eiliadau cyn hynny, neu unrhyw un â lluniau dashcam, ffôn symudol neu deledu cylch cyfyng a allai gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.