Etholiad 2021: Heriau etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llun o fryniau, tarth a chaeau
Disgrifiad o’r llun,

Brycheiniog a Maesyfed yw'r etholaeth ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr

Mae'r frwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr bob amser yn frwd yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, er mai Kirsty Williams sydd wedi cynrychioli'r sedd ers sefydlu'r cynulliad 1999.

Eleni, mae hi'n rhoi'r gorau i'r swydd, ac mae sicrwydd y bydd gwleidydd newydd yn cynrychioli'r ardal ym Mae Caerdydd.

Dyma hefyd yw unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Hon yw'r etholaeth ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr er mai dim ond 70,000 o bobl sy'n byw yma.

Etholaeth wledig

Yn gartref i'r Bannau Brycheiniog, Cronfeydd Dŵr Cwm Elan a'r Sioe Frenhinol - amaeth ac economi yw'r ffocws yma.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfran uwch o boblogaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn hunangyflogedig (19%), mwy na dwbl y ganran ledled Cymru (9%).

Hefyd, mae data yn dangos bod cyfran uchel o fusnesau bach iawn cyflogi llai na 9 o bobl (93%).

Yn ogystal, mae canran uchel yn hawlio budd-daliadau diweithdra (4%) o gymharu â chyfartaledd Cymru (6 %).

'Tyngedfennol'

Yn byw ar fferm y teulu ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu, mae Menna Davies yn dweud bod yr etholiad nesaf yn "dyngedfennol" i amaethwyr.

"Mae 'na ddiffyg parch ac empathi gyda ardaloedd cefn gwlad a dwi yn meddwl bydd yr etholiad nesaf yn hollbwysig.

"Amaeth, wrth gwrs, yw un o brif ddiwydiannau ardal Brycheiniog a Sir Maesyfed.

"Mae ffermwyr yn teimlo'n eithaf dig ar hyn o bryd a dwi'n meddwl bydd amaeth yn bwnc pwysig i'r etholiad nesaf.

"Bydd yr etholiad nesaf yn dyngedfennol i ardaloedd cefn gwlad Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Huw Rhys Thomas: "Angen rhoi ffocws yn ôl ar rôl ffermwyr mewn cynhyrchu bwyd"

Fe ddywedodd Huw Rhys Thomas, sy'n Ymgynghorydd Gwleidyddol i Undeb yr NFU:

"Mae'n rhaid cydnabod y rôl hollbwysig sydd gan ffermwyr mewn cynhyrchu bwyd.

"Rydym ni wedi cael tri ymgynghoriad gan y Llywodraeth Gymreig a dy nhw ddim yn cydnabod yn llawn bod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd.

"Ar ôl yr etholiad, rhaid i ni edrych eto ar y broses honno a rhoi ffocws yn ôl ar rôl bwysig ffermwyr mewn cynhyrchu bwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aberhonddu yn un o'r trefi mwyaf yn yr etholaeth gyda 8,200 o bobl yn byw yno

Yn frwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr fel arfer - fe gipiodd y Ceidwadwyr sedd San Steffan yn Etholiad Cyffredinol 2020.

Y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n cynrychioli'r ardal yn y senedd.

Yn Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod a Thref y Clawdd - trefi mwyaf ardal - mae'r blaenoriaethau'n amrywio.

Yn gyn-brifathro ar Ysgol Gymraeg Aberhonddu, byddai John Meurig Edwards o blaid gweld mwy yn cael ei wneud i ardaloedd gwledig.

Meddai: "Maen drist gweld faint o siopau yn Aberhonddu sydd wedi cau. Mae canol y dre wedi mynd yn eithaf tawel ac eithaf gwag.

"Mae angen rhywbeth yn sicr i fywiogi canol y dre unwaith eto a falle edrych ar y broblem barcio i helpu gyda hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Owain Hill: "Mae angen rhywun sy'n mynd i helpu'r cyngor i wella pethe"

Mae Owain Hill yn rhedeg bwyty a busnes byrgyrs yn Aberhonddu.

Meddai: "Sai'n siŵr sut dwi am bleidleisio eto. Dwi'n credu bod pobl yn llawer mwy agored i wrando ar wahanol wleidyddion nawr.

"Mwy agored ar ôl popeth sydd wedi digwydd eleni gyda'r pandemig."

"Mae lot o bwyslais ar y siopau gwag yn Aberhonddu felly mae angen rhywun sy'n mynd i helpu'r cyngor i wella pethau.

"Dyma'r siawns cyntaf mewn amser hir mae rhywun newydd yn mynd i ddod mewn, ond maen ardal ffermio felly dwi ddim yn siŵr bydd hynny yn digwydd."

Mae naw ymgeisydd yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed - Emily Durrant (Plaid Werdd), James Evans (Plaid Geidwadol Cymru), Grenville Ham (Plaid Cymru), Sam Holwill (Gwlad - Plaid Annibyniaeth Cymru), Gethin Jones (Llafur Cymru). Karen Laurie-Parry (Annibynnol), Claire Mills (Plaid Diddymu Cynulliad Cymru), John Muir (Reform UK), William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).