Y Bencampwriaeth: Brentford 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
![Mathias Jensen (Brentford, chwith) yn herio Joe Ralls (Caerdydd)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14FC/production/_118127350_cdf_200421_ge_brentford_v_cardiff_city_01.jpg)
Fe roddodd Kieffer Moore Caerdydd ar y blaen o'r smotyn yn Brentford nos Fawrth ond mae carfan Mick McCarthy'n yn gorfod bodloni gyda phwynt yn unig wedi i gamgymeriad hunllefus gan y gôl-geidwad, Alex Smithies helpu'r tîm cartref i unioni'r sgôr.
Fe ddylai fod wedi delio'n hawdd ag ergyd obeithiol Tarique Fosu-Henry o du allan i'r cwrt cosbi, ond fe ollyngodd y bêl rhwng ei ddwylo, ac yna rhwng ei goesau, i gefn y rhwyd i'w gwneud hi'n 1-1.
Gyda Brentford yn dechrau'r gêm yn bedwerydd yn y tabl - un safle tu ôl i Abertawe - roedden nhw dan bwysau i guro Caerdydd os am gynnal unrhyw obaith o sicrhau dyrchafiad trwy orffen yn gyntaf neu'n ail.
Ac ymosodwr Brentford, Ivan Toney gafodd cyfle gorau'r hanner cyntaf, wedi i Aden Flint basio'r bêl i'w lwybr trwy gamgymeriad. Bu'n rhaid i Smithies lawio'r ergyd tu hwnt i'r postyn am gic gornel.
Ond o'r dechrau fe lwyddodd Caerdydd i fygwth gôl y tîm cartref hefyd, er ofer oedd yr ymdrechion ac fe arhosodd y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl.
Roedd sawl cyfle addawol gan y ddau dîm yn y munudau cynta'r ail gyfnod cyn i Moore sgorio o'r smotyn wedi 57 o funudau.
Bu bron i'r Adar Gleision ddyblu'r fantais yn syth wedi i gyd-chwarae da Moore a Harry Wilson greu problemau i'r gwrthwynebwyr, ond i ergyd Moore ddiweddu ochr anghywir y postyn.
Ond dim ond am chwe munud y gwnaeth y fantais bara, cyn i Smithies gam-drafod ergyd Fosu-Henry o 25 llath.
Cynyddodd Brentford y pwysau ar Gaerdydd wedi hynny gan sicrhau mwyafrif y meddiant ond doedd dim rhagor o goliau.
Mae Caerdydd yn aros yn wythfed safle'r Bencampwriaeth, gyda 63 o bwyntiau, ond mae'n amhosib yn fathemategol iddyn nhw ddarfod yn chwe safle uchaf y tabl.