Y Cymro a 'ddringodd Everest' deirgwaith mewn penwythnos

  • Cyhoeddwyd
jac lewisFfynhonnell y llun, SportpicturesCymru

Everest... 8,848.86 metr o uchder, mynydd ucha'r byd. Mae'n dipyn o anghenfil, ac mae ei goncro yn uchelgais i nifer o ddringwyr ledled y byd.

Ond mae 'na un Cymro Cymraeg wedi mynd gam ymhellach - sef beicio gyfuwch ag Everest, deirgwaith mewn penwythnos ym Marchlyn ger Deiniolen - mewn her sy'n cael ei alw yn 'Everesting'.

Mae Jac Lewis o Gaernarfon yn un o nifer fach o feicwyr sydd wedi cwblhau'r sialens yma, fel yr esboniodd wrth Dewi Llwyd ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru:

"Ti'n dewis rhyw allt ti isho, geith o fod mor hir a serth wyt ti isho, a ti'n mynd i fyny a lawr yr un un lôn tan ti wedi gneud uchder Everest, sef 8,848 metr, 29,000 troedfedd.

"Nes i un Everest blwyddyn dwytha'. 'Nath o gymryd fi 12.5 awr i 'neud un Everest - o'dd hwnna'n nyts ar y pryd i fi."

330 milltir... 84,000 troedfedd

Wedi hynny fe benderfynodd Jac fynd ati i drio cyflawni'r dasg deirgwaith:

"'Nath o weithio allan yn 330 milltir ac 84,000 troedfedd, a 'nath hwnna gymryd 58 awr in total, os ti'n adio fewn y cwsg a breaks byta a ballu - 39 awr o actual reidio.

"Ges i ddau byncsiar, ond lwcus 'nath rheina ddigwydd ar waelod yr allt, so o'n i efo car efo tiwb sbâr a ballu. Wedyn o'n i'n cael problemau efo compiwtar yn recordio fo - diolch i Dduw 'nath hwnna ddim mynd yn rhy ddrwg, neu 'swn i 'di colli'r whole thing!"

Ffynhonnell y llun, SPORTPICTURESCYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogaeth ei ffrindiau a theulu yn help i Jac gario 'mlaen

Sut oedd o'n llwyddo i gysgu yn ystod yr her? "O'n i mond yn cael pedair awr ar hyd y cyfnod," eglurodd. "Ar y noson gynta', nes i gymryd dwyawr, wedyn ar yr ail noson, achos o'n i'n stryglo wedi cael cyn lleied o gwsg, nes i orfod splitio hwnna eto, so ges i awran tua 10pm i allu cadw fi i fynd a wedyn ges i rhyw awran arall tua 6am.

"O'dd pethau 'di mynd bach yn rhemp ar yr ail noson - ar ôl tua 40 awr, o'n i 'di dechrau gweld pethau ar ochr lôn - o'dd y gwair ar ochr y lôn yn y tywyllwch yn edrych fatha ieir ac o'dd bob dim wedi mynd yn rili blurry. "

"Dyna pryd nes i benderfynu cymryd awr, i rebootio fy hun - llwyth o goffi ac amdani eto!

"O'n i'm rili'n gallu gyrru adra i gysgu'n y gwely, achos o'n i'm efo digon o amser, felly be' nes i oedd cysgu ym mŵt y car - agor y bŵt, leanio'r beic yn erbyn y car, a leanio fewn i'r bŵt, efo nghoesau dros y beic, i 'neud yn siŵr fod neb yn dod i'w ddwyn o tra o'n i'n cysgu!"

Ffynhonnell y llun, Sportpicturescymru
Disgrifiad o’r llun,

Jac yn cael seibiant gan eistedd ym mŵt y car

Er mwyn cael yr egni i wneud yr her roedd rhaid i Jac wneud yn siŵr ei fod yn cael digon o fwyd: "O'n i'n bwyta bob dim o'n i'n gallu ei gael rili. O'n i gyda lot o ffrindiau, fy nghariad i, a dad yn dod â llwyth o fwyd - ges i chippy, dau lot o pizzas, Subways, bob math o bethau - cereals, energy bars, lot o sweets tuag at y diwedd.

"O'n i heb fod yn brwsio dannedd fi drwy'r cyfnod, so o'dd ceg fi mewn darnau ar ôl yr holl siwgr i gyd! 'Nath o weithio allan i fod tua 25,000 calori tuag at y diwedd, sy'n boncyrs rili!"

Her yn ystod y cyfnod clo

Felly pam fod Everesting wedi dod yn boblogaidd?

"Be' dwi'n meddwl ydi o, achos y lockdown, achos do'dd 'na ddim rasio yn mynd ymlaen, o'dd pobl dal isho rhoi challenge i'w hunan mewn rhyw ffordd. Efo Everesting, fedri di ddewis rhyw allt - mae pobl jyst yn dewis elltydd lleol iddyn nhw.

"'Nath 15,000 o bobl 'neud Everest dros y byd - mae o jyst yn ffordd dda i bobl challengio'u hun. Dwi'n meddwl fedrith rhywun gwblhau Everest - mae o jyst pa mor gryf, mentally ydyn nhw."

Roedd penderfyniad Jac i ddewis Marchlyn i wneud y sialens yn ymarferol, meddai. "Mae'r lôn 'di cau i geir - o'n i byth yn gorfod poeni am draffig a ballu. Rili mond pobl o'n i'n gorfod poeni amdan - crashio fewn i ar y ffordd lawr. Yn arbennig ar ôl 12 awr o reidio, lle 'swn i'n dechrau stryglo efo cwsg a ballu.

"Ac hefyd efo'r gradiant, achos mae o'n steady 10% yr holl ffordd i fyny. Dwi'm yn gorfod gneud gymaint o filltiroedd â fyswn i os fyswn i'n gneud lôn fel Pen y Pass lle mae o'n reit fflat - o'dd o'n ideal rili. Dwi'n meddwl ei fod o'n 3 milltir bob rep, a 93 ohonyn nhw, so 'nath o weithio allan fel 330 milltir."

Disgrifiad o’r llun,

Everest, ychydig mwy serth na lôn Marchlyn yn Neiniolen!

"Ar average dwi'n meddwl o'dd o'n cymryd rhwng 20 a 25 munud i fynd fyny, a wedyn 3-4 munud i ddod lawr. Ar hyd y triple cyfa', o'n i pretty much yr union un amser bob tro, so nes i'm rili mynd yn slofach wrth i amser fynd 'mlaen.

"Laps ffastia' fi rili oedd y rhai dwytha - dwi'n meddwl o'n i 'di excitio, achos o'n i efo grŵp mawr o ffrindiau tuag at y diwedd. O'ddan ni i gyd jyst yn hamro fyny'r mynydd, speaker on yn blario miwsig - o'dd o'n dipyn o barti rili, o'dd o'n grêt!"

Felly pam bod Jac yn gwneud hyn? "Cwestiwn da - dwi'm yn siŵr i ddweud y gwir. 'Nath un o ffrindiau fi 'neud double blwyddyn diwetha', a 'nes i reidio i 'neud 10,000 metr efo fo yr adeg hynny - 'nath hynny gymryd fi 22 awr dwi'n meddwl, ac o'n i jyst yn gorfod one-upio fo!

Ffynhonnell y llun, SPORTPICTURESCYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Jac Lewis - un o ddim ond 13 o amgylch y byd sydd wedi cyflawni'r her o feicio cyfuwch ag Everest deirgwaith!

"'Swn i'n deud fod o'n lot mwy anodd yn feddyliol, os rwbath - achos efo ffitrwydd, os ti'n pacio dy hun ddigon da ac yn bwyta digon... bod yn ddigon stubborn i gario 'mlaen ydi o fwy na'm byd - jyst dim stopio.

"Mae 'na 13 yn y byd wedi cwblhau hyn rŵan, gan gynnwys fi. Mae 'na fwy o bobl 'di bod i'r lleuad 'na sydd wedi triple Everestio!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig