Y Bencampwriaeth: Reading 2-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jamal Lowe yn dod â'r gêm yn gyfartalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jamal Lowe yn dod â'r gêm yn gyfartal

Mae Abertawe wedi bachu'r lle olaf yn y gemau ailgyfle i geisio cael dyrchafiad o'r Bencampwriaeth i'r Uwch Gynghrair wedi gêm gyfartal oddi cartref yn Reading.

Fe wnaeth gôl hwyr Andre Ayew, gyda chwe munud o'r 90 yn weddill, roi'r Elyrch ar y blaen cyn i Reading unioni'r sgôr yn hwyr yn y cyfnod ychwanegol.

Ayew hefyd wnaeth greu gôl gyntaf yr Elyrch, gan Jamal Lowe, ar ôl dod i'r maes fel eilydd.

Ar achlysur canfed gêm Steve Cooper fel rheolwr, mae Abertawe nawr yn gallu dechrau meddwl am baratoi unwaith yn rhagor eleni am y gemau ailgyfle.

Cyn y gic gyntaf yn Stadiwm Madejski roedd Abertawe yn y chweched safle gyda 76 o bwyntiau a Reading yn seithfed gyda 68.

Nod Reading felly oedd cau'r bwlch gydag Abertawe i bum pwynt gyda dwy gêm i fynd, a chadw'u gobeithion hwythau'n fyw o gystadlu am ddyrchafiad eu hunain trwy gipio'r triphwynt.

Roedd yr Elyrch yn gwybod y byddai pwynt yn ddigon iddyn nhw fod yn saff o le yn y gemau ailgyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Cabango gyfle cynnar i sgorio

Abertawe gafodd y dechrau gorau gyda chyfleoedd cynnar i Ben Cabango a Wayne Routledge.

Hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf fe wnaeth Reading ddechrau ymosod o ddifri ac wedi 31 o funudau roedd peniad Yakou Meite o groesiad John Swift wedi eu rhoi ar y blaen.

Cafodd Liam Cullen hanner cyntaf da ac fe roddodd ddigon o reswm i Reading gynhyrfu gyda chyfleoedd yn gynnar wedi'r egwyl hefyd.

Chwe munud ar ôl dod i'r maes fel eilydd roedd Ayew wedi gwneud gwahaniaeth, gan ryddhau'r bêl trwy goesau Liam Moore i ryddhau Jay Fulton. Rhedodd yntau'n nerthol i fyny'r cau cyn pasio i Lowe, a sgoriodd ei 14eg gôl o'r tymor, i unioni'r sgôr.

Cafodd y gôl effaith ar Reading, a gafodd drafferth i daro'n ôl, ac wedi 83 o funudau roedd Abertawe ar y blaen am y tro cyntaf. Daeth o ganlyniad pas gwych gan y cefnwr chwith Jake Bidwell o fewn y cwrt cosbi i Ayew a rwydodd yn hawdd.

Am ychydig funudau felly roedd yn ymddangos y gallai'r Elyrch gipio'r triphwynt a chodi sawl safle yn y tabl. Ond yna, dair munud wedi'r 90, fe sgoriodd eilydd Reading, Tomas Esteves gydag ergyd isel i gornel y rhwyd i'w gwneud hi'n 2-2.

Golyga'r canlyniad bod hi'n amhosib bellach i Reading godi'n uwch nag Abertawe, sy'n parhau'n chweched yn y tabl gyda 77 o bwyntiau.