David Lloyd yn serennu gyda'r bat a'r bêl i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
David Lloyd a Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi cael dechrau da i'w gêm yn erbyn Caint ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn dilyn perfformiad siomedig gan yr ymwelwyr yn eu batiad cyntaf.

Roedd Caint yn edrych yn addawol wrth fatio gyntaf yng Nghaerdydd gan gyrraedd 88-1 fore Iau.

Ond fe gollon nhw weddill eu wicedi am ond 50 rhediad wrth i David Lloyd a Timm van der Gugten gymryd pedair wiced yr un.

Roedd 'na ddwy hefyd i Michael Hogan yng Ngerddi Soffia wrth i Gaint orffen ar 138.

Sigledig oedd y tîm cartref ar ddechrau eu batiad nhw hefyd wrth i Joe Cooke wynebu ond saith pêl cyn cael ei ddal am 0.

Ond ar ôl serennu gyda'r bêl, camodd Lloyd i'r adwy gyda'r bat hefyd gan sgorio 54 heb fod allan i adfywio batiad Morgannwg.

Fe fydd Morgannwg yn dechrau'r ail ddiwrnod ar 109-2, 29 rhediad y tu ôl Caint.

Pynciau cysylltiedig