Llys yn gwrthod cynyddu dedfryd Anthony Williams am ladd ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anthony WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Anthony Williams wedi tagu ei wraig yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Mae'r Llys Apêl wedi gwrthod cais i gynyddu dedfryd pensiynwr a gafodd ei garcharu am dagu ei wraig i farwolaeth yn ystod y cyfnod clo.

Cafodd Anthony Williams, 70 o Gwmbrân, ei garcharu am bum mlynedd ar ôl cyfaddef iddo ladd ei wraig Ruth.

Roedd wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, ac fe'i cafwyd yn ddieuog o'i llofruddio.

Ond cafodd y ddedfryd ei chyfeirio at y Llys Apêl gan Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol ar y sail ein bod yn or-drugarog.

Salwch yn egluro'i ymddygiad

Yn ystod yr achos llys gwreiddiol yn mis Chwefror, dywedwyd bod Anthony Williams wedi dioddef gorbryder ac iselder, ac wedi methu cysgu am sawl noson oherwydd pryderon ynghylch ei iechyd, coronafeirws ac arian.

Mewn gwrandawiad ddydd Gwener gwrthododd yr Arglwydd Ustus Bean y cais, gan ddweud ei fod yn "achos annodweddiadol iawn o ladd".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anthony Williams wedi cyfaddef iddo ladd ei wraig, Ruth Williams, pan nad oedd yn ei iawn bwyll

Ychwanegodd bod salwch Anthony Williams yn egluro'i ymddygiad yn llwyr.

"Nid oedd y salwch wedi cael ei ddiagnosio na'i drin," meddai.

"Nid yw hwn, yn ein tyb ni, wedi cael ei ddosbarthu fel achos o gam-drin domestig yng ngwir ystyr y gair," meddai.

"Nid oedd hanes o ymddwyn yn rheolgar neu'n orfodol nac unrhyw ddigwyddiadau blaenorol o drais a cham-drin. I'r gwrthwyneb."