Adolygu dedfryd 'trugarog' dyn a laddodd ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Anthony WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Anthony Williams wedi tagu ei wraig yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Mae dedfryd o bum mlynedd a roddwyd i ddyn a laddodd ei wraig yn ystod y cyfnod clo cyntaf wedi cael ei chyfeirio at Lys yr Apêl am fod yn "rhy drugarog".

Ni chafwyd Anthony Williams, 70, yn euog o lofruddio'i wraig Ruth, 67, yn eu cartref yng Nghwmbrân, Torfaen, ar ôl achos yn Llys y Goron Abertawe.

Ond cyfaddefodd Williams - oedd yn dioddef o orbryder ac iselder - i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Mae'r Twrnai Cyffredinol Michael Ellis eisiau i hyd y ddedfryd gael ei hadolygu.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Ellis ei fod wedi ei "syfrdanu gan yr achos".

"Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd gyfeirio dedfryd Anthony Williams i Lys yr Apêl gan ei fod yn credu bod y ddedfryd yn rhy drugarog," meddai'r llefarydd.

"Mae nawr lan i'r llys i benderfynu a ddylai hyd y ddedfryd gael ei gynyddu."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ruth Williams o ganlyniad i wasgedd ar ei gwddf ac roedd tri o'i hesgyrn wedi torri

Yn ystod yr achos llys yn gynharach y flwyddyn hon clywodd y llys nad oedd Williams, o Frynglas, Hollybush, wedi cysgu am sawl diwrnod oherwydd pryderon am arian, coronafeirws a'i iechyd.

Dywedodd seiciatrydd wrth y rheithgor bod ei iechyd meddwl wedi dirywio'n sylweddol ar ôl ymddeol yn 2019, a bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa.

Dywedodd Williams wrth yr heddlu ei fod wedi tagu Mrs Williams ar ôl dadl ar 28 Mawrth 2020.

Achos 'trasig'

Galwodd y Barnwr Paul Thomas "yr achos yn un trasig ar sawl lefel".

Ychwanegodd: "Y trasiedi mwyaf yw y cafodd menyw 67 oed oedd mewn iechyd da ei bywyd ei chymryd i ffwrdd gan ddyn roedd hi wedi caru am bron i 50 mlynedd.

"Mae hefyd yn drasiedi y bydd gweithred barhaodd gwpl o funudau, ac un roeddet ti'n difaru ar unwaith, yn dy ddiffinio am weddill dy fywyd. A'n drasig dy fod ti nawr wedi gadael dy ferch heb ei mam annwyl."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ruth Williams ei darganfod yn farw yn ardal Hollybush, Cwmbrân

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn barod wedi gorchymyn adolygiad i'r farwolaeth, gan ychwanegu "nad oedd hi'n fodlon" gyda phenderfyniad Cyngor Torfaen i beidio â chynnal adolygiad dynladdiad domestig.

Ar ôl ysgrifennu i'r cyngor, dywedodd Ms Patel: "Roedd hwn yn achos ofnadwy ac mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Ruth Williams."

Dywedodd bwrdd gwasanaeth cyhoeddus yr awdurdod lleol y byddan nhw nawr yn cynnal yr ymchwiliad.

Ysgrifennodd yr ASau Llafur Harriet Harman, Jess Phillips ac Alex Davies-Jones at y Twrnai Cyffredinol Suella Braverman yn Chwefror, yn galw arni i gyfeirio'r achos i'r Llys Apêl.

Mae Ms Braverman wedi mynd ar gyfnod mamolaeth ers hynny, ac mae'r Twrnai Cyffredinol newydd Mr Ellis wedi gweithredu.

Pynciau cysylltiedig