Carcharu dyn a laddodd ei wraig yn ystod cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anthony WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae dyn a laddodd ei wraig ychydig ddyddiau wedi dechrau'r cyfnod clo cyntaf wedi cael dedfryd o bum mlynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Dyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun bod Anthony Williams, 70, yn ddieuog o lofruddio'i wraig 67 oed, Ruth Williams.

Cafodd ei thagu i farwolaeth wedi ffrae yn eu cartref ar 28 Mawrth 2020.

Clywodd y llys bod Williams wedi dioddef gorbryder ac iselder, ac wedi methu cysgu am sawl noson oherwydd pryderon ynghylch ei iechyd, coronafeirws ac arian.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ruth Williams yn ei chartref yng Nghwmbrân

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas: "Roedd hwn yn achos trasig ar sawl lefel.

"Y drasiedi fwyaf o bell yw bod bywyd gwraig 67 mlwydd oed oedd mewn iechyd da wedi dod i ben dan law dyn roedd wedi ei garu am bron hanner can mlynedd.

"Mae hefyd yn drasiedi y bydd gweithred cwpwl o funudau, un wnaethoch chi ei ddifaru yn syth, yn eich diffinio am weddill eich oes. Ac mae'n drasig eich bod nawr wedi gadael eich merch heb ei mam annwyl."