Covid: Galw am 'newid ar frys' i gael pobl yn ôl ar drenau
- Cyhoeddwyd
Mae angen newidiadau brys i gael pobl allan o geir ac yn ôl ar drenau wedi i gyfyngiadau teithio Covid gael eu llacio, yn ôl ymgyrchwyr.
Disgynnodd y nifer o deithwyr tua 95% wrth i deithio "nad yw'n hanfodol" gael ei wahardd ar anterth y pandemig.
Mae ofnau nawr y bydd pobl yn newid yn ôl i geir os na fydd camau yn cael eu cymryd i wneud y rheilffyrdd yn fwy fforddiadwy, deniadol a mynd i'r afael ag ofnau diogelwch.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru (TC) fod trenau'n ddiogel a bod newidiadau'n cael eu gwneud.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r nifer o bobl sy'n defnyddio trenau i deithio i mewn, allan ac ar draws Cymru wedi cynyddu o ddeutu 80% - gyda tua 31.1m o deithiau yn 2019, o'i gymharu â thua 16.6m yn 1999-2020.
Mae cymudwyr wedi cwyno am drenau'n cael eu canslo, cerbydau orlawn ac oedi.
Mae ciwiau mawr wedi bod y tu allan i rai orsafoedd wrth i filoedd ddefnyddio trenau i fynd i mewn i Gaerdydd ar ddiwrnodau gemau a chyngherddau.
Ym mis Rhagfyr, yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, gostyngodd nifer y teithwyr ar wasanaethau TC i 5-10% o'r lefelau cyn Covid.
Arweiniodd hyn at wladoli TC ym mis Chwefror, mewn ymgais i gadw gwasanaethau yn rhedeg.
Ym mis Ebrill, ar ôl i waharddiadau teithio gael eu codi, a oedd yn caniatáu i bobl deithio i unrhyw le yng Nghymru a Lloegr, nododd TC gynnydd mewn teithwyr i 20-30% o lefelau cyn y pandemig, gyda nifer yr ymwelwyr mewn gorsafoedd i fyny at 39% erbyn 12 Ebrill.
'Addasu' gwasanaethau rheilffordd
Dywedodd TC eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw gwasanaethau i fynd yn ystod "amseroedd heriol", a bod y gwasanaeth rheilffordd yn "addasu" i newidiadau yn y galw a ffordd o fyw oherwydd Covid-19.
Dywedodd Alexia Course, cyfarwyddwr gweithrediadau rheilffyrdd, wrth i lawer symud i ffwrdd o weithio yn y swyddfa 9-5, y nod oedd i wneud rheilffyrdd yn "opsiwn mwy deniadol" ar gyfer tripiau dydd a gwyliau, ac i weithio ar brisiau ac opsiynau tocynnau newydd.
Ond mae arbenigwyr trafnidiaeth ac ymgyrchwyr gwyrdd wedi rhybuddio y gallai negeseuon diogelwch ynghylch osgoi trafnidiaeth gyhoeddus gael "effaith barhaol" ac y gallai gymryd blynyddoedd i deithwyr ddod yn ôl ar drenau.
Gyda rhai o brif gyflogwyr Cymru yn ystyried caniatáu i weithwyr weithio o gartref yn llawn amser, mae ymgyrchwyr yn ofni y bydd y rhwydwaith rheilffyrdd yn anghynaladwy, oni bai ei fod yn addasu i'r newidiadau.
Maen nhw'n poeni am sgil-effaith ar yr amgylchedd os bydd mwy ohonom yn dewis ceir dros drafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Rhybuddiodd Peter Kingsbury, o Railfuture Cymru, fod cael pobl yn ôl ar drenau ac allan o geir yn hanfodol er "budd ehangach y gymdeithas".
"Efallai y bydd gan genedlaethau'r dyfodol ansawdd bywyd llawer is os na allwn newid ein harferion dros y degawd neu ddau nesaf," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i 45% o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio erbyn 2040 ac mae pob plaid wleidyddol wedi addo trafnidiaeth fwy cynaliadwy yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Ymgais i 'deithio'n wyrdd'
Fodd bynnag, dywedodd Christine Boston, cyfarwyddwr yr elusen teithio cynaliadwy Sustrans Cymru, fod yn rhaid i'r gwasanaeth rheilffordd addasu'n gyflym neu bydd "perygl gwirioneddol" y gallai pobl a oedd yn arfer defnyddio trenau newid yn ôl i geir.
Mae ffigyrau yn dangos bod traffig ar ffyrdd Cymru wedi cynyddu 62% yn y cyfnod clo diwethaf, o'i gymharu â'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, tra bod lefelau trafnidiaeth gyhoeddus wedi parhau'n gymharol isel.
Gydag ymchwydd mewn beicio yn y cyfnod clo, mae'r elusen eisiau gweld llwybrau beicio a gorsafoedd trenau yn cael eu clymu gyda'i gilydd, gyda mwy o le i feiciau ar drenau, mewn ymgais i helpu pobl i "deithio'n wyrdd".
"Mae'r cwymp yn nifer y teithwyr yn peryglu gwthio cost teithio ymhell y tu hwnt i fodd nifer," meddai Ms Boston.
Mae'r defnydd o geir wedi dychwelyd yn ôl i lefelau cyn y pandemig, gyda risg wirioneddol o adferiad sy'n cael ei arwain gan geir, a fyddai'n ddinistriol i ni gyd."
Dywedodd Norman Baker, o Campaign for Better Transport, fod y cynnydd mewn traffig yn dangos bod "angen brys" am gymhellion i gael pobl allan o'u ceir.
"Os na fyddwch chi'n cael pobl yn ôl ar drenau a bysiau mi fydd 'na gridlock ar y ffyrdd," rhybuddiodd.
Dywedodd Ms Course fod angen atgoffa pobl o fanteision teithio ar y trên, fel mwynhau "edrych allan o'r ffenest", darllen llyfr, cwblhau gwaith a chael paned o goffi wrth deithio.
"Mae 'na lawer na allwch chi ei gael pan fyddwch chi'n eistedd tu ôl i olwyn car ac yn gyrru i ble bynnag y mae angen i chi gyrraedd," meddai.
Ychwanegodd fod trenau newydd yn cael eu hadeiladu a bod TC yn edrych ar sut i greu mwy o le ar gyfer beiciau.
'Dim mwy o 9 dan 5'
Cyn y pandemig, roedd llawer yn defnyddio gwasanaethau rheilffordd i gymudo i'r gwaith, gan arwain at broblemau gyda gorlenwi ar linellau'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd a hybiau mawr eraill ar adegau prysuraf o'r dydd.
Nawr, gyda rhai cwmnïau'n cyflwyno ffyrdd mwy hyblyg o weithio, ac eraill yn cyhoeddi y bydd gweithio gartref yn parhau ymhell i'r dyfodol, dywed ymgyrchwyr fod yn rhaid i wasanaethau rheilffyrdd addasu i "fyd gwaith gwahanol" iawn.
Dywedodd Mr Baker fod y dyddiau o batrymau cymudo 9-5 ar ben a bod angen i'r amserlen reilffordd a'r tocynnau "adlewyrchu realiti newydd" lle byddai mwy o bobl yn gwneud teithiau hamddenol.
Ychwanegodd fod angen i ddyddiadau ar gyfer gwaith peirianneg newid, gan sicrhau na fyddai amserlenni'n gyfyngedig ar ddydd Sul pan fyddai llawer o bobl yn mynd ar deithiau.
"Nid yw dydd Sul bellach yn ddiwrnod lle gallwn gau'r gwasanaeth i lawr. Mae dydd Sul yn ddiwrnod prysur felly dylai gwaith peirianneg ddigwydd ar amser gwahanol, ar ddiwrnod gwahanol," meddai.
'Tocynnau fforddiadwy'
Cynyddodd rhai prisiau tocynnau ar nifer o wasanaethau TC 2.6% o fis Mawrth, gan ddod ag ef yn unol â chynnydd tebyg a gyhoeddwyd yn Lloegr ym mis Rhagfyr.
Mae taith o Gaerdydd Canolog i Paddington Llundain ar ddydd Llun yn ystod oriau tawel yn costio £113.70, ac ar adegau prysur, mae'n costio mwy na £200, yn ôl gwefan docynnau.
Dywedodd Mr Kingsbury fod yna angen brys am ddiwygio prisiau i adlewyrchu na fyddai llawer o bobl yn cymudo bum niwrnod yr wythnos.
Ychwanegodd fod angen disodli tocynnau tymor traddodiadol - wedi'u hanelu at bobl sy'n cymudo ar adegau prysuraf i swyddfeydd - gydag opsiynau hyblyg a bod hyn angen ei wneud "ar frys i ddod a pobl yn ôl dros y chwe mis nesaf".
Dywedodd Ms Course fod gan TC docynnau mwy hyblyg eisoes - ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gwahanol - ond eu bod yn "edrych ar ffyrdd eraill y gallwn annog gwahanol fathau o docynnau" a diwydiant rheilffyrdd y DU i greu tocyn hyblyg newydd.
'Gwneud yn fawr o ffyniant gwyliau adref'
Heb unrhyw amserlen ar gyfer pryd y gall pobl ddechrau mynd ar wyliau dramor eto, mae llawer yn rhagweld ffyniant yn y sector gwyliau gartref eleni.
Dywedodd ymgyrchwyr ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau rheilffyrdd yn manteisio ar fwy o dwristiaeth ac yn annog pobl i ddefnyddio rheilffyrdd i deithio ar deithiau yn yr haf.
Dywedodd Mr Kingsbury nad oedd y rhwydwaith rheilffyrdd presennol "yn gynaliadwy yn ariannol" ac y byddai'n bosib cyflwyno cynllun tebyg i'r Eat Out to Help Out, gyda phrisiau is neu hyd yn oed siwrnai am ddim.
Dywedodd Ms Course fod TC yn gweithio'n galed i hyrwyddo rheilffyrdd fel ffordd fwy deniadol o deithio ledled Cymru ar gyfer teithiau, a'i fod yn gweithio gyda busnesau i "geisio manteisio ar y cwsmeriaid nad ydyn nhw efallai wedi edrych ar y rheilffordd yn yr un goleuni o'r blaen".
Fodd bynnag, mae ofnau hefyd y gallai pobl sy'n defnyddio trenau ar gyfer teithiau a gwyliau arwain at orlenwi.
Dywedodd Jeff Smith, o Grŵp Teithwyr Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth (SARPA) a chynghorydd tref Plaid Cymru, ei fod yn ofni y byddai llinell Cambrian yn ei chael hi'n anodd ymdopi.
Parhaodd rhai gwasanaethau i weld gorlenwi'n digwydd wrth i bobl anwybyddu rheolau teithio i fynd i draethau yr haf diwethaf.
"Rydych chi'n edrych ar y sefyllfa fel yn y 1970au lle rydych chi'n mynd i gael pawb yn mynd i gyrchfannau gwyliau yn y DU, felly bydd gennym ni bobl o Birmingham yn mynd i Aberystwyth," meddai Mr Smith.
Dywedodd Mr Smith y byddai diffyg cerbydau ar y lein yn golygu na fyddai yna fawr o le i deithwyr aros ar wahân, pe bai nifer y teithwyr yn cynyddu yn yr haf.
"Os oes gennych chi drên orlawn yna mae'r pellter cymdeithasol yn mynd allan o'r ffenest," meddai.
Dywedodd Ms Course fod trenau newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a fyddai'n helpu i gynyddu capasiti a phrofiad y cwsmer, ac yn caniatáu gwasanaethau amlach, gan gynnwys ar linell Cambrian.
Dywedodd y byddai delio â gorlenwi yn "heriol", ond gyda llai o bobl yn cymudo, nid oedd angen i bethau "fynd yn ôl i sut oedd pethau", tra byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei rhoi pan fyddai digwyddiadau mawr yn ailddechrau.
'Angen mynd i'r afael ag ofnau diogelwch'
Gydag ychydig o bobl yn defnyddio trenau yn ystod y cyfnodau clo, roedd cynnal pellter cymdeithasol yn weddol hawdd, ac mae pobl wedi cael eu troi i ffwrdd am beidio â gwisgo masgiau.
Fodd bynnag, dywedodd ymgyrchwyr ar ôl misoedd o gyngor i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i aros gartref, roedd camargraff cyhoeddus bod trenau yn "anniogel".
Mae gwyddonwyr wedi dweud bod y risg o drosglwyddo yn dibynnu ar ba mor orlawn yw'r trên, a pha mor bell i ffwrdd y gallwch chi gadw draw oddi wrth bobl.
Hyd yn hyn eleni, mae 9,348 o bobl wedi cael eu herio gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain a staff rheilffyrdd am beidio â gwisgo masgiau wyneb - syn orfodol ar drenau - gyda 1,039 o bobl wedi cael eu gwrthod ar y trenau.
Dywedodd Ms Course nad oedd tystiolaeth bod trenau'n anniogel, gyda gwell mesurau glanhau a diogelwch ar waith, ac anogodd bobl i ddefnyddio gwiriwr capasati cyn teithio.
Ychwanegodd y byddai cadw pobl ar wahân wrth i'r galw gynyddu yn "heriol", ond roedd pellhau cymdeithasol yn flaenoriaeth a byddai mesurau diogelwch yn parhau.
Dywedodd Mick Lynch, o undeb llafur RMT, y byddai pwynt yn dod lle na fyddai'n bosib cynnal pellter cymdeithasol ar y rhwydwaith mwyach.
Unwaith i lefelau teithwyr godi i lefel penodol dywedodd fod y dewis wedyn yn un rhwng " cyfyngu ar deithio neu newid y pellter cymdeithasol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021