Lawr yn y ddinas

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig

Fe ddaw ein gwibdaith o gwmpas rhanbarthau etholiadol Cymru i ben yn ddigon addas yn y rhanbarth sy'n gartref i'r Senedd, sef Canol De Cymru.

Caerdydd, Bro Morgannwg a sleisen gul o'r cymoedd yw'r rhanbarth mewn gwirionedd ac yn y senedd ddiwethaf roedd pob un sedd yn eiddo i Lafur gydag un eithriad.

Fe ddylai Llafur gadw ei gafael ar y pedair sedd yn y brifddinas ei hun er bod tair o'r brwydrau yn ddiddorol.

Roedd Canol Caerdydd yn gadarnle i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar un adeg ac mae gan y blaid gynghorwyr yno o hyd.

Fe fyddai cadw'r ail safle yn ganlyniad da i'r blaid ar ôl gostwng i drydydd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Fe ddylai'r ysgariad rhwng Neil McEvoy a Phlaid Cymru olygu bod gafael Mark Drakeford ar Orllewin Caerdydd yn ddiogel tra bod Gogledd Caerdydd, cadarnle i'r gleision yn y ganrif ddiwethaf, yn parhau ar ei thaith tua'r chwith gan ddilyn patrwm sy'n amlwg yn ninasoedd mawrion Cymru a Lloegr.

Gobaith gorau'r Ceidwadwyr yw Bro Morgannwg felly lle'r oedd y mwyafrif Llafur yn llai nac 800 yn 2016, ac a enillwyd yn ddigon handi gan Alun Cairns yn 2019.

Fe fyddai methu cipio'r Fro yn ergyd drom i obeithion y Ceidwadwyr.

Y Rhondda, Pontypridd a Chwm Cynon yw'r etholaethau sy'n cynrychioli'r cymoedd yn y rhanbarth hwn ac mae'r frwydr dros y Rhondda a gipiwyd gan Blaid Cymru yn 2016 ymhlith y ffyrnicaf yng Nghymru.

Dydw i ddim am ddarogan pwy fydd yn ei hennill ond mae Llafur wedi taflu gweithwyr ac adnoddau at y sedd. Cawn wybod ddydd Gwener p'un ai oedd hynny'n beth doeth ai peidio.

O safbwynt y seddi rhanbarthol fe fydd y cwota i ennill sedd yn uchel ac mae'n anodd rhagweld un o'r pleidiau llai yn llwyddo er bod y Gwyrddion yn croesi eu bysedd.

Dau Geidwadwr a dau o Blaid Cymru yw'r canlyniad tebycaf.