Heddlu'n 'cadw meddwl agored' am farwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Churchill
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Churchill am 09:30 ar fore 17 Mawrth

Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod yn "cadw meddwl agored" wrth barhau i ymchwilio i farwolaeth dyn mewn adeilad ar Ffordd Churchill yng Nghaerdydd fis Mawrth.

Cafodd corff Naser Al Barghash, 36, ei ddarganfod gan yr heddlu ar fore Mercher, 17 Mawrth mewn fflat yng nghanol y ddinas.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Yn wreiddiol roedd y llu wedi dweud eu bod yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Dywedodd Heddlu'r De: "Rwy'n apelio ar unrhyw un allai fod ag unrhyw wybodaeth am symudiadau Naser yn y dyddiau cyn 17 Mawrth i gysylltu gyda ni fel y gallwn ni gadarnhau yn union beth sydd wedi digwydd."

Pynciau cysylltiedig